Anzia Yezierska

Oddi ar Wicipedia
Anzia Yezierska
Anzia Yezierska ym 1921.
Ganwyd29 Hydref 1880 Edit this on Wikidata
Płońsk Edit this on Wikidata
Bu farw21 Tachwedd 1970, 20 Tachwedd 1970 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Coleg Athrawon Edit this on Wikidata
Galwedigaethawdur, nofelydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amHungry Hearts, Bread Givers Edit this on Wikidata

Nofelydd ac awdures straeon byrion Americanaidd yn yr iaith Saesneg oedd Anzia Yezierska (188021 Tachwedd 1970) sydd yn nodedig am ei phortreadau o fywydau'r mewnfudwyr Iddewig yn Ninas Efrog Newydd. Yn y 1920au hi oedd un o'r ffuglenwyr benywaidd amlycaf yn llên yr Unol Daleithiau, a fe'i chofir fel un o brif ffigurau diwylliant Iddewig Efrog Newydd yn hanner cyntaf yr 20g.

Bywyd cynnar ac addysg (1880–1904)[golygu | golygu cod]

Ganed Anzia Yezierska ym mhentref Mały Płock (a leolir heddiw yng ngogledd-ddwyrain Gwlad Pwyl), shtetl yn nhiriogaeth Pwyl y Gyngres yn Ymerodraeth Rwsia, yn ferch i Baruch Yezierska, ysgolhaig y Talmwd, a'i wraig Pearl. Roedd ganddi saith o frodyr a chwiorydd, a chawsant eu magu mewn tlodi ac yn y ffydd Iddewig Uniongred, gyda'r Iddew-Almaeneg yn iaith yr aelwyd a'r gymuned. Ymfudodd ei theulu i Unol Daleithiau America ym 1892, a derbyniodd Anzia yr enw "Hattie Mayer" oddi wrth swyddogion mewnfudo yn Ynys Ellis.[1] Ymsefydlasant yn y Lower East Side yn Efrog Newydd, ac yno parhaodd Bernard â'i hen ddull crefyddol ac ymwadol o fyw, heb ganlyn galwedigaeth. Gweithiodd Pearl a'i phlant mewn swyddi gwasaidd, yn gweini mewn bwytai a golchi dillad, i ennill arian. Ni chafodd y merched fawr o addysg ffurfiol, ond dysgodd Anzia yr iaith Saesneg trwy fynychu gwersi'r ysgol nos a benthyg llyfrau.[2]

Derbyniodd Anzia ysgoloriaeth i astudio yn Ysgol Rand, a sefydlwyd yn ardal Greenwich Village gan ddilynwyr y Blaid Sosialaidd, gyda chymorth oddi ar gylch benywaidd o Iddewon Diwygiedig o dras Almaenig. Yn ystod ei harddegau diweddar, gadawodd ei theulu a cheisiodd loches mewn cartref ddyngarol ar gyfer merched Iddewig ifanc, y Clara de Hirsch Home for Working Girls. Fodd bynnag, teimlai'n ddiraddiedig am iddi ddibynnu ar elusen am ei haddysg, a digiodd wrth y gwragedd cyfoethog.[1]

Aeth i Brifysgol Columbia i dderbyn hyfforddiant yng Ngholeg yr Athrawon, a graddiodd ym 1904 gyda diploma mewn gwyddor tŷ.[1]

Gyrfa addysg a phriodasau (1904–19)[golygu | golygu cod]

Treuliodd Yezierska y 16 mlynedd nesaf yn ennill ei thamaid, yn anhapus, ym myd addysg. Treuliodd y cyfnod o 1905 i 1913 fel athrawes coginio mewn ysgol gynradd, a gweithiodd yn aml fel athrawes lanw. Yn ddiweddarach, gweithiodd i elusennau addysg.[1][2]

Priododd â thwrnai o'r enw Jacob Gordon ym 1910, ond cawsant ysgariad wedi chwe mis am iddi hi wrthod cael cyfathrach rywiol. Ym 1911, priododd am yr eildro, ag argraffwr o'r enw Abraham "Arnold" Levitas mewn seremoni Iddewig, er iddynt beidio â chadarnhau'r uniad yn gyfreithiol. Cawsant un ferch, Louise (1912–97). Gadawodd Anzia ei hail ŵr oddeutu 1914, ac aeth ar daith hir gyda Louise i Galiffornia. Oherwydd diffyg arian, bu'n rhaid iddi ddychwelyd Louise i fyw gyda Levitas.[1]

Gyrfa lenyddol (1919–70)[golygu | golygu cod]

Enillodd Yezierska wobr am stori orau y flwyddyn ym 1919 am ei stori fer "The Fat of the Land", a gynhwyswyd yn antholeg flynyddol Edward J. H. O'Brien o straeon byrion Americanaidd. Derbyniodd gontract am ei llyfr cyntaf, a chyhoeddwyd y casgliad o straeon Hungry Hearts ym 1920. Cafodd y gyfrol sylw yn sgil canmoliaeth oddi wrth y colofnydd papur newydd Frank Crane, a phrynodd y cynhyrchydd ffilm Samuel Goldwyn hawliau'r straeon am $10,000. Cynigodd Goldwyn hefyd gontract i Yezierska am dair blwyddyn gyda thâl o $200 yr wythnos, a symudodd hi felly i Hollywood i ysgrifennu sgriptiau.[1] Rhoes y gorau i'r swydd wedi'r flwyddyn gyntaf, a dychwelodd i Efrog Newydd.

Ysgrifennodd ei nofel gyntaf, Salome of the Tenements (1923), yn seiliedig ar brofiadau ei chyfaill Rose Pastor Stokes, mewnfudwraig Iddewig arall o slymiau Efrog Newydd, a briododd â dyn cyfoethog. Y 1920au oedd anterth ei gyrfa lenyddol, a'r uchafbwynt oedd cyhoeddi ei champwaith, y nofel led-hunangofiannol Bread Givers, ym 1925. Mae'r stori yn ymwneud â merch o deulu o fewnfudwyr Iddewig yn Efrog Newydd a'i brwydrau yn erbyn gormes ei thad a'i thlodi. Derbyniodd y llyfr glod oddi wrth y beirniaid a'r cyhoedd darllengar, ac enillodd Yezierska incwm sylweddol o'r gwerthiannau.

Ni chafodd ei nofel nesaf, Arrogant Beggar (1927), gymaint o adolygiadau croesawgar. Pallodd llwyddiant Yezierska erbyn diwedd y 1920au, a gostyngodd gwerthiannau ei llyfrau. Collodd y rhan fwyaf o'i harian yn sgil cwymp Wall Street ym 1929. Cyhoeddwyd ei nofel olaf, All I Could Never Be (1932), heb fawr o sylw, ac ym 1935 trodd at y Prosiect Llenorion Ffederal (FWP), un o raglenni'r Fargen Newydd, am gymorth ariannol. Wedi i'r FWP gael ei ddiddymu ym 1938, treuliodd Yezierska y 1940au yn byw'n hynod o dlawd mewn fflat un-ystafell yn Greenwich Village, yn gweithio ar ei hunangofiant. Cyhoeddwyd yr hwnnw, Red Ribbon on a White Horse, o'r diwedd ym 1950, gyda rhagymadrodd gan y bardd W. H. Auden. Derbyniodd y gyfrol adolygiadau da, a theimlai'r awdures yn ddigon hyderus i ysgrifennu yn ei henaint. Trwy gydol y 1950au, cyfrannodd adolygiadau llenyddol yn fynych i'r New York Times Book Review a chyfnodolion eraill.

Bu farw Anzia Yezierska ar 21 Tachwedd 1970 yn Ontario, Califfornia, oddeutu 90 oed. Wedi ei marwolaeth, cyhoeddwyd casgliad arall o'i straeon byrion, The Open Cage (1979).

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Hungry Hearts (1920).
  • Salome of the Tenements (1922).
  • Children of Loneliness (1923).
  • Bread Givers (1925).
  • Arrogant Beggar (1927).
  • All I Could Never Be (1932).
  • Red Ribbon on a White Horse (1950).
  • The Open Cage (1979).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 (Saesneg) "Yezierska, Anzia (c. 1881–1970)", Women in World History: A Biographical Encyclopedia. Adalwyd ar wefan Encyclopedia.com ar 1 Awst 2023.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) "Yezierska, Anzia", American Women Writers: A Critical Reference Guide from Colonial Times to the Present. Adalwyd ar wefan Encyclopedia.com ar 1 Awst 2021.