Shtetl

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Shtetl yng Ngwlad Pwyl, 1926

Trefi bychain â phoblogaeth Iddewig fawr yng Nghanolbarth a Dwyrain Ewrop cyn y pogromau a'r Holocost oedd y shtetlau. Mae'r gair yn tarddu o'r Iddew-Almaeneg "shtetl" (שטעטל; lluosog: שטעטלעך, shtetlekh), sef ffurf fachigol "shtot", sy'n golygu 'tref'.

Arferid galw tref ychydig yn fwy na shtetl yn shtot (Iddew-Almaeneg: שטאָט), Almaeneg: Stadt) e.e. Lemberg (Lviv) neu Czernowitz, a thref lai na shtetl yn dorf (דאָרף).[1]


Cyfeiriadau[golygu]