Annie Gwen Jones

Oddi ar Wicipedia
Annie Gwen Jones
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru

Athrawes ac ymgyrchydd dros hawliau merched oedd Annie Gwen Jones (18681965), neu Annie Gwen Vaughan Jones.[1] Hi oedd Ysgrifenydd Caerdydd a'r Cylch Cymdeithas Pleidlais i Ferched cyn Y Rhyfel Byd Cyntaf.

Daeth hi'n wreiddiol o Landeilo [2] Graddiodd yn Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth.[3][1] Priododd Edgar Jones, athro o'r Barri. Roedd eu merch, Gwyneth Vaughan Jones (1897-1997), yn bennaeth Gramadeg Sir y Barri Ysgol i Ferched.[3] Gareth Jones (1905-1935), y newyddiadurwr enwog, oedd eu fab nhw. Yn dilyn ei farwolaeth, dywedir iddi wisgo du am weddill ei hoes.[4]

Ysgrifennodd hi Impressions of Life on the Steppes of Russia ym 1900, yn cofnodi ei phrofiadau fel athrawes preifat yn nhref ddiwydiannol Hughesovka (rhwng 1889 a 1892).[2] Cyd-sefydlodd gangen leol o Glwb Merched yr Ugeinfed Ganrif ym 1903.[5] Yn ddiweddarach daeth yn ynad.[1]

Claddwyd hi yn y fynwent Merthyr Dylan yn y Barri.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 "Barry Women's Trail" (PDF). Vale of Glamorgan Council. Cyrchwyd 29 Mawrth 2024.
  2. 2.0 2.1 "Annie Gwen Jones". Gareth Jones (yn Saesneg). Cyrchwyd 29 Mawrth 2024.
  3. 3.0 3.1 Deirdre Beddoe. "Women and Politics in Twentieth Century Wales" (PDF) (yn Saesneg). Cyrchwyd 29 Mawrth 2024.
  4. "Mr Jones: The true story, as not seen on screen". The Times (yn Saesneg). Cyrchwyd 29 Mawrth 2024.
  5. 5.0 5.1 Ian Johnson. "Remembering two remarkable Barry women". Glamorgan Star (21 Mawrth 2024): 6.