Ani Glass

Oddi ar Wicipedia
Ani Glass
Ganwyd1984 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcanwr Edit this on Wikidata

Cantores Gymreig o dras Cernywaidd yw Anna Eiluned Saunders (ganwyd 1984) sy'n fwy adnabyddus am ei enw llwyfan Ani Glass. Mae hi hefyd yn arlunydd a ffotograffydd.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ei chwaer yw'r gantores Cernywaidd-Gymreig arall, Gwenno. Ei thad yw Tim Saunders, y bardd ac ieithydd Cernyweg. Ganwyd Saunders yng Nghaerdydd.

Gyrfa gerddorol[golygu | golygu cod]

Gyrfa gynnar (2004–2011)[golygu | golygu cod]

Cyn ymuno â'i chwaer yn y Pipettes yn 2008, roedd hi'n aelod o'r grŵp ‘Genie Queen’, a reolwyd gan Andy McCluskey o'r grŵp Orchestral Manoeuvres in the Dark. Fel aelod o'r Pipettes, hi ysgrifennodd a recordiodd ail albwm y grŵp, Earth vs The Pipettes yn 2010.

Wedi'r Pipettes (2011–yn awr)[golygu | golygu cod]

Ar ôl i'r Pipettes chwalu yn 2011 daeth yn ôl i Gaerdydd i ddechrau gweithio fel cerddor unigol. Ar ôl cyhoeddi tair cân fel lawrlwythiad digidol yn ystod 2015-6, (dewiswyd un fel cân y wythnos ar Radio Cymru) daeth ei EP cyntaf, Ffrwydrad Tawel yn 2017. Ei halbwm cyntaf a ddilynodd yn 2020, sef Mirores (Gwylwraig), gyda chaneuon yn y Gernyweg, Saesneg a Chymraeg. Enillodd wobr Albwm Cymraeg y flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2020 yn ogystal â chyrraedd rhestr fer Gwobr Cerdd Cymraeg 2020.

Dylanwad diwylliannol[golygu | golygu cod]

Urddwyd hi fel bardd Gorsedh Kernow yn 2013 gyda'r enw barddol 'Mirores'.

Disgyddiaeth[golygu | golygu cod]

Gan The Pipettes[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Albwm Yn y Siart
DU
2010 Earth vs. The Pipettes

Cyhoeddiadau albwm fel cantores unigol[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Enw Label Ffurf Iaith
2020 Mirores[1] Recordiau Neb Lawrlwythiad digidol, crynoddisg, feinyl Cymraeg, Cernyweg, Saesneg

Cyhoeddidau EP Unigol[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Enw Label Ffurf Iaith
2015 "Ffôl" / "Little Things" Recordiau Neb Lawrlwythiad digidol Cymraeg, Saesneg
2016 Y Ddawns Recordiau Neb Lawrlwythiad digidol Cymraeg
2017 Ffrwydrad Tawel Recordiau Neb Lawrlwythiad digidol Cymraeg
2018 Peirianwaith Perffaith Recordiau Neb Lawrlwythiad digidol Cymraeg
2020 Ynys Araul Recordiau Neb Lawrlwythiad digidol Cymraeg

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gareth Kent (10 Mawrth 2020). "Album: Mirores by Ani Glass". Wales Arts Review (yn Saesneg). Cyrchwyd 13 Tachwedd 2020.