Gwenno Saunders
Cantores a chwaraewr allweddellau Gymreig ydy Gwenno Mererid Saunders[1] (ganed 23 Mai 1981). Adnabyddir orau fel aelod o fand pop The Pipettes, a hi fu fel arfer yn sefyll ganol llwyfan yn eu sioeau byw. Mae hi'n siaradwaig Cymraeg rhugl ac hefyd yn siarad Cernyweg a Gaeleg yr Alban.[2] Caiff Gwenno ei hadnabod weithiau fel Gwenno Pipette.
Cynnwys |
Bywgraffiad [golygu]
Ganed Saunders yng Nghaerdydd,[3] yn ferch i'r ieithydd a bardd Cernyweg nodweddiadol, Tim Saunders,[4] a Lyn Mererid, sy'n aelod o'r côr sosialaidd Cymreig adnabyddus, Côr Cochion Caerdydd, ac yn gweithio fel cyfieithydd.
Bu Saunders yn mynychu Academi Dawns Wyddelig Seán Éireann-McMahon ers oedd hi'n bump oed,[5] roedd Gwenno hefyd yn aelod o gast gynhyrchiadau Michael Flatley, Lord Of The Dance[6] a Feet of Flames, tra roedd hi yn ei harddegau, a chwaraeodd y rhan arweiniol yng nghynyrchiad Las Vegas Lord Of The Dance. Yn 2001, cafodd ran yn y gyfres teledu Pobol y Cwm ar S4C, ac yn hwyrach cyflwynodd y rhaglen "Ydy Gwenno'n Gallu... ?".
Gyrfa gerddorol [golygu]
Yn ystod y blynyddoed cyn ymaelodi â'r Pipettes, bu Gwenno yn gantores bop trydanol unigol, yn canu y rhan fwyaf drwy gyfrwng y Gymraeg a Chernyweg, gan ryddhau dwy EP unigol, Môr Hud[7] a ryddhawyd yn 2002, a Vodya[8] yn 2004. Ym 2003, gofynodd Polydor Records iddi ymddangos ar raglen Fame Academy y BBC, ond tynnodd Saunders allan o'r gystadleuaeth cyn iddi gychwyn.[9] Yn ddiweddarach, cynyrchiolodd Saunders Gernyw yn y Gystadleuaeth Cân Eurovision Amgen yn 2003, ac enillodd Wobr Dewis y Bobl am ei pherfformiad o Vodya.
Ymaelododd Gwenno â'r Pipettes ym mis Ebrill 2005 wedi i'r aelod ymffurfiol, Julia, adael. Mae hi'n nodweddiadol yn bennaf am ei llais arweiniol ar y sengl Pull Shapes a chytgan Your Kisses Are Wasted on Me. Yn ddiweddar, mae wedi postio gwaith unigol ar ei gwefan MySpace. Rhyddhau albwm unigol fechain U & I ym mis Hydref 2007. Wedi ymadawiad Rosay a RiotBecki o'r Pipettes, ymunodd chwaef ifengaf Saunders, Ani â'r band ym mis Ebrill 2008.