Alistair James

Oddi ar Wicipedia
Alistair James
Ganwyd1984 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcerddor Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Mae Alistair James yn gyflwynydd ar Capital Cymru yng Ngogledd Cymru.[1] Mae e'n gerddor ac yn ganwr.

Fe'i ganwyd ym Mangor a mynychodd Ysgol Gynradd Pant Y Rhedyn, Llanfairfechan, cyn symud i Ysgol Uwchradd Aberconwy. Amlygodd doniau cerddorol Alistair yn ifanc, yn dysgu canu’r gitâr a’r piano. Fel cerddor mae’n edmygu James Taylor, Mark Knopfler, Elton John a llawer mwy.  

Ar ôl gadael, treuliodd gyfnod byr fel diddanwr ar yr Ynys Roegaidd, Kos. Dychwelodd i Gymru i astudio Cyfryngau Creadigol a Rhyngweithiol ym Mhrifysgol Morgannwg.

Rhyddhaodd ei albwm gyntaf pan oedd yn 22 oed ar label Recordiau Sain, ac ers hynny mae wedi rhyddhau 5 albwm arall sef yn ogystal â 3 EP ei hun, sef ‘Recordiau’r Llyn’. Mae’r label Recordiau’r Llyn wedi lansio gyrfaoedd cantorion ifanc Cymraeg yn megis Sophie Jayne a Beth Frazer.

Yn 2007 fe gydweithiodd gyda DJSG ar sawl cân ar gyfer gasgliad o'r enw Clwb Cymru ar label recordio Sain. Ymysg y traciau i gael eu rhyddhau oedd fersiwn o'r gân draddodiadol Sosban Fach sydd bellach wedi cael ei wylio dros filiwn o weithiau ar gyfryngau cymdeithasol.

Dechreuodd ei yrfa cyflwyno ar orsaf radio cymunedol Tudno FM yn Llandudno. Aeth wedyn i orsaf Champion 103 cyn symud i Heart i wneud y sioe 'Drive Time'. Mae Alistair nawr yn cyflwyno’r Sioe Frecwast ar Capital Cymru. Yn stod ei yrfa mae e wedi cyfweld â nifer o enwau adnabyddus, gan gynnwys Michael Bublé a Gary Barlow.

Yn Hydref 2010 canodd yr anthem genedlaethol cyn gêm Cwpan Ewropeaidd Rygbi'r Gynghrair yn erbyn yr Iwerddon.

Yn ogystal â chyflwyno ar y radio, mae Alistair wedi ymddangos ar sawl rhaglen S4C ac wedi cyflwyno mewn rhai o ddigwyddiadau mwyaf y genedl yn cynnwys seremoni gwobrwyo BAFTA Cymru, Eisteddfodau, y chwe gwlad ac ymgyrch Cymru yn y Euros a chwpan y byd 2022.

Mae Alistair with ei fodd yn perfformio. Gellir ei weld yn perfformio ar lwyfannau o amgylch Gogledd Cymru yn rheolaidd ac mae hyd yn oed wedi perfformio tramor. Rhai o uchafbwyntiau perfformio Alistair hyd yn hyn yw rhannu llwyfan gyda Paul Young ac agor y llwyfan i Dafydd Iwan.

Cyrhaeddodd Alistair rownd derfynol Cân i Gymru yn 2008 gyda’r gân Crwysau Gwyn ac yna ddoth yn drydydd yn 2020 gyda'i gân 'Morfa Madryn' sef cân wedi’i hysgrifennu am ei brofiad fel plentyn o gerdded adre ar hyd llwybr Morfa Madryn.

Yn 2023 enillodd Alistair Cân i Gymru gyda'r gân Patagonia.  Mae'r gân, fel mae'r teitl efallai yn awgrymu, wedi selio ar hanes sefydlu'r wladfa ym Mhatagonia.  Curodd y gân dros cant o ganeuon o safon uchel i gyrraedd y rownd terfynol. Dylan Morris perfformiodd y gân yn fyw ar S4C ar noson 3ydd o Fawrth ar raglen Cân i Gymru yn Aberystwyth.

Yn ei amser hamdden mae’n mwynhau teithio a gwylio pêl droed. Mae’n byw yn Sir Conwy gyda’i wraig a’i dau blentyn.

Disgograffeg[golygu | golygu cod]

  • Neith Digon Ddim Digoni - Recordiau Sain - 2006
  • Croeso Nol - Recordiau'r Llyn - 2008
  • Hardd Hafan Hedd - Recordiau'r Llyn - 2008
  • Ble'r Wyt Ti Nawr - Recordiau'r Llyn - 2010
  • Y Daith - Recordiau'r Llyn - 2013
  • Crwysau Gwyn - Recordiau'r Llyn - 2014
  • Grym Y Gan - Recordiau'r Llyn - 2016
  • Yr Albwm Nadolig - Recordiau'r Llyn - 2017
  • Morfa Madryn - Recordiau'r Llyn - 2020
  • Tan Tro Nesa - Recordiau'r Llyn - 2022[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Capital Breakfast with Alistair James". Capital (yn Saesneg). Cyrchwyd 20 Ebrill 2023.
  2. "Alistair James - Tan tro nesa". Siop Cwlwm. Cyrchwyd 20 Ebrill 2023.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]