Alexandr Pushkin

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Aleksandr Pushkin)
Neidio i: llywio, chwilio
Aleksandr Pushkin, llun gan Vasily Tropinin.

Bardd a llenor Rwsaidd oedd Alexandr Sergeyevich Pushkin (Rwsieg: Алекса́ндр Серге́евич Пу́шкин, (6 Mehefin 1799 - 10 Chwefror 1837. Ystyrir ef yn fardd mwyaf Rwsia.

Ganed ef ym Moscow, a chyhoeddodd ei gerdd gyntaf pan oedd yn bymtheg oed. Addysgwyd ef yn y Lyceum Ymerodrol yn Tsarskoe Selo. Roedd o blaid newidiadau cymdeithasol, a daeth i wrthdrawiad a'r llywodraeth yn nechrau'r 1820au. Alltudiwyd ef i dde Rwsia, a thra yno ysgrifennodd ei ddrama enwocaf, Boris Godunov, er na allodd ei chyhoeddi am rai blynyddoedd. Cyhoeddodd ei nofel farddonol Eugene Onegin rhwng 1825 a 1832.

Priododd Pushkin Natalya Goncharova yn 1831, a daethant yn rhan o'r llys ymerodrol yn St. Petersburg. Yn 1837, roedd sibrydion fod Natalya wedi dechrau carwriaeth a Georges d'Anthès. Rhoddodd Pushkin sialens iddo i ymladd, ond clwyfwyd Pushkin yn ddifrifol yn yr ornest a bu farw ddau ddiwrnod yn ddiweddarach.

Barddoniaeth[golygu]

  • 1820–Ruslan a Ludmila (Руслан и Людмила)
  • 1820-21–Kavkazsky plennik (Кавказский пленник) ("Carcharor y Caucasus"
  • 1821 Gavriiliada (Гавриилиада) ("Y Gabrieliad")
  • 1821–22–Bratya razboyniki (Братья разбойники) ("Y lleidr-frodyr")
  • 1823–Bakhchisaraysky fontan (Бахчисарайский фонтан) ("Ffynnon Bakhchisaray")
  • 1824–Tsygany (Цыганы) ("Y Sipsiwn")
  • 1825–Graf Nulin (Граф Нулин) ("Cownt Nulin")
  • 1829–Poltava (Полтава) ("Poltava")
  • 1830–Domik v Kolomne (Домик в Коломне) (Y Tŷ bychan yn Kolomna")
  • 1833–Medny vsadnik (Медный всадник) ("Y Marchog Efydd")

Nofel farddonol[golygu]

  • 1825-32–Yevgyeny Onyegin (Евгений Онегин) (Eugene Onegin)

Cyfieithiadau i'r Gymraeg[golygu]

  • 'Pedair Drama Fer' o'r Rwseg (Tri awdur) , cyfieithwyd gan T Hudson Williams. Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 1964

- 'Y Marchogion' (Medny vsadnik Медный всадник 1833) gan Pwshcin (Алекса́ндр Серге́евич Пу́шкин)

- 'Don Juan' gan Pwshcin (Алекса́ндр Серге́евич Пу́шкин)