Alan Sugar

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Dyn busnes a phersonoliaeth teledu Seisnig yw Syr Alan Michael Sugar (ganed 24 Mawrth 1947). O'i wreiddiau cynnar yn nwyrain Llundain, bellach mae gan Sugar ffortiwn amcangyfrifol o £830m (US$1.25 biliwn). Er iddo wneud ei arian ym myd technoleg yn wreiddiol, daw y rhan fwyaf o'i gyfoeth o'r bortffolio o dai ac adeiladau bellach, yn hytrach nag o'i fusnesau. Yn 2007, gwerthodd Amstrad, a oedd yn un o'i fusnesau mwyaf.

Mae Sugar hefyd yn enwog fel cadeirydd Tottenham Hotspur F.C. o 1991 tan 2001, ac am serennu yng nghyfres deledu'r BBC The Apprentice, sydd bellach yn ei phumed gyfres. Darlledwyd y cyfresi o 2005 a 2009 ac fe'u seiliwyd ar y sioe deledu Americanaidd o'r un enw, gyda'r gwr busnes Donald Trump.

Flag of England.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill