Akira Kurosawa
Cyfarwyddwr ffilm o Japan oedd Akira Kurosawa (23 Mawrth, 1910 – 6 Medi, 1998). Bu'n cyfarwyddo ffilmiau am 50 mlynedd, o Sanshiro Sugata yn 1943 hyd Madadayo yn 1993.
Ganed Kurosawa yn Tokyo, yn fab i brifathro ysgol. Yn 1936 cafodd le ar raglen brentisiaeth i gyfarwyddwyr ffilmiau gan siwdio PCL (Toho yn ddiweddarach). Daeth yn adnabyddus yn rhyngwladol pan enillodd ei ffilm Rashomon y Llew Aur yng Ngŵyl Ffilm Fenis. Mae hefyd wedi ennill y Palme D'Or yng Ngŵyl Ffilm Cannes am Kagemusha a gwobrau Oscar. Dyfarnwyd y Légion d'honneur iddo yn 1984.
Yr enwocaf o'i ffilmiau yw Saith Samurai, sydd wedi ei hefelychu nifer o weithiau yn y gorllewin, er enghraifft The Magnificent Seven (1960) ac yn India. Efelychwyd ei ffilm Yojimbo fel A Fistful of Dollars.
Roedd nifer o'i ffilmiau yn serennu'r actorion Japaneaidd Toshirō Mifune (yn cynnwys Yojimbo) a Takashi Shimura (yn cynnwys Ikiru). Ymddangosodd y ddau gyda'i gilydd yn Rashomon, Saith Samurai, a nifer o ffilmiau eraill Kurosawa.
Ffilmyddiaeth [golygu]
| Blwyddyn | Teitl | Japaneg |
|---|---|---|
| 1943 | Sugata Sanshirō | 姿三四郎 |
| 1944 | Ichiban utsukushiku | 一番美しく |
| 1945 | Zoku Sugata Sanshirô | 續姿三四郎 |
| Tora no o wo fumu otokotachi | 虎の尾を踏む男達 | |
| 1946 | Waga seishun ni kuinashi | わが青春に悔なし |
| 1947 | Subarashiki nichiyōbi | 素晴らしき日曜日 |
| 1948 | Yoidore tenshi | 酔いどれ天使 |
| 1949 | Shizukanaru ketto | 静かなる決闘 |
| Nora Inu | 野良犬 | |
| 1950 | Sukyandaru | 醜聞 |
| Rashōmon | 羅生門 | |
| 1951 | Hakuchi | 白痴 |
| 1952 | Ikiru | 生きる |
| 1954 | Shichinin no samurai | 七人の侍 |
| 1955 | Ikimono no kiroku | 生きものの記録 |
| 1957 | Kumonosu-jo | 蜘蛛巣城 |
| Donzoko | どん底 | |
| 1958 | Kakushi toride no san akunin | 隠し砦の三悪人 |
| 1960 | Warui yatsu hodo yoku nemuru | 悪い奴ほどよく眠る |
| 1961 | Yōjinbō | 用心棒 |
| 1962 | Tsubaki Sanjūrō | 椿三十郎 |
| 1963 | Tengoku to jigoku | 天国と地獄 |
| 1965 | Akahige | 赤ひげ |
| 1970 | Dodesukaden | どですかでん |
| 1975 | Derusu Uzāra | デルス・ウザーラ |
| 1980 | Kagemusha | 影武者 |
| 1985 | Ran | 乱 |
| 1990 | Yume | 夢 |
| 1991 | Hachigatsu no rapusodī | 八月の狂詩曲 |
| 1993 | Mādadayo | まあだだよ |