Gŵyl Ffilm Cannes

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Ystyrir Gŵyl Ffilm Cannes (Ffrangeg: Festival de Cannes), a sefydlwyd yn 1946, yn un o wyliau ffilm hynaf a phwysicaf y byd, gyda'r gwyliau a gynhelir yn Fenis a Berlin. Cynhelir yr ŵyl, ym mis Mai fel fel rheol, yn y Palais des Festivals et des Congrès yn nhref Cannes yn ne Ffrainc. Cynhaliwyd gŵyl 2008 rhwng 14 a 25 Mai.

Rhennir y cystadleuathau yn wahanol adrannau. Bydd yr 62ain gwyl yn digwydd o'r 13eg tan y 24ain o Fai, 2009. Llywydd y Rheithgor fydd yr actores Ffrengig Isabelle Huppert.

Gwobrau[golygu]

Y wobr mwyaf aruchel a ddyfernir yn Cannes yw'r Palme d'Or ("Y Balmwydden Euraidd") am y ffilm orau.

  • Cystadleuaeth
    • Palme d'Or - Y Balmwydden Euraidd
    • Grand Prix - Gwobr Mawreddog yr Ŵyll
    • Prix du Jury - Gwobr y Rheithgor
    • Palme d'Or du court métrage - Y Ffilm Fer Orau
    • Prix d'interprétation féminine - Yr Actores Orau
    • Prix d'interprétation masculine - Yr Actor Gorau
    • Prix de la mise en scène - Y Cyfarwyddwr Gorau
    • Prix du scénario - Y Sgript Orau
  • Adrannau Eraill
    • Prix Un Certain Regard - Talent ifanc a gweithiau blaengar a heriol
    • Gwobrau Cinéfondation - Ffilmiau myfyrwyr
    • Caméra d'Or - Ffilm Lawn Gyntaf Orau
  • Rhoddir gan Unedau Annibynnol
    • Prix de la FIPRESCI - Gwobr y Ffederasiwn o Feirniaid Ffilm
    • Gwobr Vulcain - Rhoddir i artist technegol gan y C.S.T.
    • Gwobrau'r Wythnos Beirniaid Rhyngwladol
    • Gwobr y Rheithgor Eciwmenaidd

Francefilm.png Eginyn erthygl sydd uchod am sinema Ffrainc. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.