Akhenaten

Oddi ar Wicipedia
Akhenaten
GanwydThebes Edit this on Wikidata
Bu farw1336 CC Edit this on Wikidata
Amarna Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Hen Aifft Edit this on Wikidata
Blodeuodd14 g CC Edit this on Wikidata
SwyddPharo Edit this on Wikidata
TadAmenhotep III Edit this on Wikidata
MamTiye Edit this on Wikidata
PriodNefertiti, Kiya, The Younger Lady, Tadukhipa Edit this on Wikidata
PlantMeritaten Tasherit, Ankhesenpaaten Tasherit, Setepenre, Neferneferure, Neferneferuaten Tasherit, Ankhesenamun, Meketaten, Tutankhamun, Meritaten Edit this on Wikidata
LlinachEighteenth Dynasty of Egypt Edit this on Wikidata
Akhenaten, Nefertiti a'u merched yn addoli'r Aten

Roedd Akhenaten (yn golygu Ysbryd effeithiol yr Aten), enw gwreiddiol Amenhotep IV, yn frenin Yr Hen Aifft o'r 18fed Brenhinllin. Nid yw dyddiadau ei deyrnasiad yn hollol sicr, ond awgrymwyd 1353 CC-1336 CC neu 1351 CC - 1334 CC.

Ganed Akhenaten yn fab ieuengaf i'r brenin Amenhotep III a'i Brif Wraig, Tiye. Nid ef oedd wedi ei fwriadu i ddilyn ei dad ar yr orsedd, ond bu farw ei frawd Thutmose yn ieuanc a daeth Akhenaten i'r orsedd fel Amenhotep IV . Yn y bedwerydd flwyddyn o'i deyrnasiad, dechreuodd grefydd newydd, addoliad yr Aten, yr haul, fel prif dduw, ac yn fuan fel unig dduw. Newidiodd ei enw o "Amenhotep" ("Mae Amun yn fodlon") i Akhenaten. Yn ei bumed flwyddyn, creodd brifddinas newydd, Akhetaten ("Gorwel yr Aten"), ar y safle a adwaenir yn awr fel Amarna.

Prif wraig Akhenaten oedd Nefertiti, sy'n enwog oherwydd y cerflun ohoni sy'n awr yn Amgueddfa Berlin. Un o'i wragedd eraill oedd Kiya). Cafodd chwe merch gan Nefertiti, ac mae llawer o gerfluniau'r cyfnod yn eu dangos fel teulu. Awgrymwyd hefyd fod y ddau frenin a'i dilynodd, Smenkhkare ac wedyn Tutankhamun, yn feibion iddo gan wragedd eraill, ond nid oes sicrwydd o hyn.

Yn dilyn marwolaeth Akhenaten, symudodd y llys o Akhetaten gan adael y ddinas i adfeilio. Yn fuan yn nheyrnasiad Tutankhamun adferwyd y grefydd draddodiadol.

<
it
n
ra
G25x
n
>
Akhenaten
yn hieroglyffau
Rhagflaenydd:
Amenhotep III
Brenin yr Aifft
14g CC
Olynydd:
Smenkhkare