Tutankhamun

Oddi ar Wicipedia
Tutankhamun
GanwydTutankhaten Edit this on Wikidata
c. 1341 CC Edit this on Wikidata
Amarna Edit this on Wikidata
Bu farwc. 1323 CC Edit this on Wikidata
Memphis Edit this on Wikidata
Man preswylUnknown Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Newydd Edit this on Wikidata
Galwedigaethllywodraethwr Edit this on Wikidata
SwyddPharo Edit this on Wikidata
TadAkhenaten Edit this on Wikidata
MamThe Younger Lady Edit this on Wikidata
PriodAnkhesenamun Edit this on Wikidata
Plant317a mummy, 317b mummy Edit this on Wikidata
LlinachEighteenth Dynasty of Egypt Edit this on Wikidata
Nomen (chwith) neu enw genedigol Tutankhamun a'i praenomen neu enw brenhinol.

Roedd Nebkheperure Tutankhamun (weithiauTutenkh-, -amen, -amon) yn frenin Yr Hen Aifft rhwng 1333 CC. a 1324 CC,). Roedd yn aelod o'r 18fed Frenhinllin yn y cyfnod a elwir y Deyrnas Newydd. Ei enw yn wreiddiol oedd Tutankhaten, sy'n golygu "Delw byw yr Aten", tra mae Tutankhamun yn golygu "Delw byw Amun".

Mae cryn dipyn o ddadlau wedi bod ynglŷn â theulu Tutankhamun. Y farn fwyaf cyffredin yn ddiweddar yw ei fod yn fab i Akhenaten ac un o'i wragedd, Kiya, nad oedd yn brif wraig iddo. Roedd yn briod ag Ankhesenpaaten, merch i Akhenaten a Nefertiti ac felly efallai yn hanner chwaer iddo.

Roedd Akhenaten wedi bod yn gyfrifol am chwyldro crefyddol, gan ymwrthod a duwiau traddodiadol yr Aifft ac addoli Aten, a gynrychiolid gan yr haul. Daeth Tutankhamun i'r orsedd yn fachgen tua 9 oed, ac ymhen rhyw ddwy flynedd wedyn dychwelwyd at y duwiau traddodiadol, yn cynnwys Amun, a newidiodd y brenin ei enw o Tutankhaten

<
it
n
ra
t
w
t
anx
>

i Tutankhamun. Oherwydd ei oed, mae'n debyg mai y swyddogion oedd yn llywodraethu ar ei ran, yn arbennig Ay, a wnaeth y penderfyniad.

Bu Tutankhamun farw yn 19 oed; efallai o ganlyniad i dorri ei goes mewn damwain yn ôl ymchwil diweddar ar ei gorff. Nid oedd o bwysigrwydd arbennig fel brenin, gan iddo farw yn fuan ar ôl dod yn ddigon hen i deyrnasu drosto'i hun, ond daeth yn un o frenhinoedd mwyaf adnabyddud yr Hen Aifft oherwydd i'w feddrod gael ei ddarganfod yn Nyffryn y Brenhinoedd gan Howard Carter yn 1922. Tra'r oedd beddrodau'r rhan fwyaf o frenhinoedd yr Aifft wedi eu hysbeilio gan ladron ganrifoedd lawer yn ôl, roedd y rhan fwyaf o'r trysorau oedd wedi eu claddu gyda Tutankhamun yn dal yn y bedd, i bob golwg am fod pawb wedi anghofio lle yr oedd.

Rhagflaenydd:
Smenkhkare
Brenin yr Aifft
1332 CC1324 CC
Olynydd:
Ay