Ahmed Jabari

Oddi ar Wicipedia
Ahmed Jabari
Ganwyd4 Rhagfyr 1960 Edit this on Wikidata
Dinas Gaza Edit this on Wikidata
Bu farw14 Tachwedd 2012 Edit this on Wikidata
Dinas Gaza Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Palesteina Palesteina
Alma mater
Galwedigaethpartisan Edit this on Wikidata

Roedd Ahmed al-Jabari (Arabeg: أحمد الجعبري‎; 1960 – 14 Tachwedd 2012)[1] (ysgrifennir rhan olaf ei enw hefyd fel: Jaabari, Ja'bari neu Ja'abari) yn ymgyrchydd Palesteinaidd a'r ail uchaf ym myddin Hamas. O dan ei arweiniad ychwanegodd Hamas yn sylweddol at ei gyflenwadau o arfau gan gynnwys rocedi gyda'r grym i yrru'r taflegryn gryn bellter.[2]

Wedi graddio mewn Hanes ym Mhrifysgol Gaza cafodd ei arestio gan awdurdodau Israel yn 1982 a'i garcharu am 15 mlynedd am fod yn aelod o Fatah. yn y carchar cyfarfu â Salah Shehade a newidiodd ei deyrngarwch i Hamas; yn ddiweddarach priododd ferch Shedade. Bu'n wleidyddol weithredol hefyd, a sefydlodd Nur, sef mudiad i gynorthwyo carcharorion gwleidyddol.[3]

Fe'i lladdwyd gan daflegryn wedi'i anelu'n uniongyrchol ato gan Fyddin Israel ar 14 Tachwedd, 2012 tra roedd yn teithio mewn car, gan gychwyn Ymgyrch Colofn o Niwl.[4][5] Ef oedd swyddog uchaf o Hamas i gael ei ladd ers Ymosodiad Israel ar Lain Gaza 2008–2009.[6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Bywgraffiadur: Ahmad al-Jaabari (1960–2012)". Ma'an. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-11-16. Cyrchwyd 16 Tachwedd 2012.
  2. "Arms With a Long Reach Help Hamas". The New York Times. 17 Tachwedd 2012. Cyrchwyd 18 Tachwedd 2012.
  3. "Shalit swap brings shadowy Hamas man to the fore". Al-Arabiya. Agence France-Presse. 25 Hydref 2011. Cyrchwyd 19 Rhagfyr 2011.
  4. Levy, Elior (14 Tachwedd 2012). "IDF kills top Hamas commander". Ynet News. Cyrchwyd 14 Tachwedd 2012.
  5. Kershner, Isabel; Fares Akram (15 Tachwedd 2012). "Israeli Assault Into Gaza Kills A Hamas Leader". The New York Times. t. A1. More than one of |author= a |last= specified (help); |access-date= requires |url= (help)
  6. "Israel Intensifies Gaza Air Strikes". Voice of America. 15 Tachwedd 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-11-19. Cyrchwyd 15 Tachwedd 2012.