Ymgyrch Colofn o Niwl

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Delwedd:Flickr - Israel Defense Forces - Infographics, Ahmed Jabari.jpg
Propaganda gan Israel ar ffurf poster; yma maent yn brolio eu bônt wedi llofruddio Ahmed Jabari. Y llofuddiaeth hwn, yn ôl llawer oedd cychwyn yr ymgyrch Colofn o Niwl.

Ymgyrch gan Luoedd Amddiffyn Israel yn Llain Gaza yw Ymgyrch Colofn o Niwl (neu Ymgyrch Colofn o Gwmwl; Saesneg: Operation Pillar of Defense; Hebraeg: עַמּוּד עָנָן, Amúd Anán; llythr. "Colofn o Gwmwl")[1] a lansiwyd ar 14 Tachwedd 2012 pan lofruddiwyd Ahmed Jabari, pennaeth milwrol Hamas yn Gaza, gan fyddin Israel.[2][3][4] Diben yr ymgyrch, yn ôl Llywodraeth Israel, oedd atal ymosodiadau rocedi gan Hamas rhag cael eu saethu o'r Llain Gaza[5] a chreu anrhefn gweinyddol i fudiadau milwriaethol y Palesteiniaid.[6]

Yn ôl Llywodraeth Israel, cychwynodd eu hymgyrch am dri rheswm:[7]

  1. honir fod grwpiau Palesteinaidd wedi lansio dros 100 o rocedi tuag at Israel dros gyfnod o 24 awr,[8]
  2. ymosodiad ar jeep byddin Israel oddi fewn i Israel ei hun[9]
  3. a ffrwydriad o dan dir Israel, yn agos at grwp o filwyr Israelaidd.[10]
Colofnau o fwg uwch ben Gaza, wedi i'r dref gael ei blastio gan daflegrau Israel.

Taniodd byddin Israel, yr IDF, dros 1,550 o daflegrau a rocedi o'r awyr, allan o danciau ac o longau'r llynges tuag at y Llain Gaza.[11] Ffrwydrwyd cyfarpar tanio rocedi Hamas, gan daro canolfannau cadw arfau a chanolfannau milwrol; ffrwydrodd y rocedi Israelaidd hyn, hefyd, adeiladau sifilaidd gan gynnwys adeiladau'r Llywodraeth, tai cyffredin a blociau o fflatiau.[12][13][14]

Lladdwyd rhwng 158 a 177 o Balisteiniaid gyda dros eu hanner yn sifiliaid.[15] Amcangyfrifant hefyd fod 1,200 - 1,300 o Balisteiniaid wedi'u niweidio.

Ar 22 Tachwedd, drwy gymorth yr Aifft cafwyd cadoediad, gydag amodau e.e. codi'r gwaharddiadau i'r Palesteiniaid fewnforio nwyddau i'r Llain Gaza.

Cefndir[golygu]

Disgrifir y Llain Gaza gan rai fel "carchar rhyfel mwyaf y byd" am fod Israel yn cadw'r bobl dan warchae economaidd a milwrol gyda "ffens ddiogelwch" anferth yn gwahanu'r diriogaeth ac Israel, llynges Israel yn rhwystro mynediad o'r môr, a dim cysylltiad trwy'r awyr (dinistriwyd Maes Awyr Yasser Arafat ganddynt). I'r de, ar y ffina â'r Aifft, dim ond un croesfa sydd ar gael, ger Rafah, ac mae mynd i mewn ac allan yn anodd yno hefyd.

Mae gwarchae Israel o'r llain yn golygu mai ychydig iawn o fynd a dod sy'n digwydd o'r ardal. Mae Israel yn caniatau rhywfaint o gymorth meddygol ond yn ôl y Groes Goch mae effaith y warchae'n niweidiol iawn i economi Palesteina ac yn creu argyfwng oherwydd diffyg nwyddau meddygol hanfodol megis ffilm Pelydr-X.[16] Cred y Groes Goch hefyd fod y gwarchae hwn gan Israel yn anghyfreithiol ac yn groes i Gyfraith Ryngwladol, Ddynol (Saesneg: international humanitarian law)[17]

Yn Rhagfyr 2008, cafwyd ymosodiad gan Lu Awyr Israel a lladdwyd dros 300 o Balesteiniaid o fewn deuddydd. Ar y 3ydd o Ionawr 2009 symudodd tanciau a milwyr Israel i fewn i'r Llain a gwelwyd llawer o fomio o awyrennau a hofrenyddion Israel yn rhagflaenu'r milwyr. Cafwyd protestiadau yn erbyn Israel led-led Cymru gan gynnwys Caerdydd, Abertawe a Chaernarfon.

Ym Mai 2010 ymosododd milwyr Israel ar lynges ddyngarol yn cludo nawdd i Lain Gaza.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. "Chief of Staff Declares 'Operation Pillar of Cloud'". Arutz Sheva. 14 Tachwedd 2012. http://www.israelnationalnews.com/News/Flash.aspx/254767. Adalwyd 14 Tachwedd2012. 
  2. "Day 2: 300+ Rockets Fired at Israel Since Start of Operation Pillar of Defense". Algemeiner. 15 Tachwedd 2012. http://www.algemeiner.com/2012/11/15/algemeiner-live-updates-day-2-245-rockets-fired-at-israel-since-start-of-operation-pillar-of-defense/. Adalwyd 15 Tachwedd 2012. 
  3. Lappin, Yaakov (14 Tachwedd 2012). "Israeli air strike kills top Hamas commander Jabari". The Jerusalem Post. http://www.jpost.com/Defense/Article.aspx?id=291779. Adalwyd 14 Tachwedd 2012. 
  4. Kalman, Matthew (15 Tachwedd 2012). "Massed Israeli troops poised for invasion of Gaza". The Independent (DU). http://www.independent.co.uk/news/world/middle-east/massed-israeli-troops-poised-for-invasion-of-gaza-8316615.html. Adalwyd 15 Tachwedd 2012. 
  5. Al-Mughrabi, Nidal (16 Tachwedd 2012). "Jerusalem and Tel Aviv under rocket fire, Netanyahu warns Gaza". Chicago Tribune. Archived from the original on 2012-12-09. https://archive.is/wasc. 
  6. "Israeli air strike kills top Hamas commander Jabari". The Jerusalem Post. http://www.jpost.com/Defense/Article.aspx?id=291779. Adalwyd 14 Tachwedd 2012. 
  7. http://www.mfa.gov.il/MFA/Government/Speeches+by+Israeli+leaders/2012/Operation_Pillar_of_Defense-Statements.htm
  8. http://www.jpost.com/Defense/Article.aspx?id=291300
  9. http://www.liveleak.com/view?i=7a6_1352564792
  10. http://abcnews.go.com/International/wireStory/israel-tunnel-explodes-gaza-border-17686902#.UKnxEIefvuE
  11. Vick, Karl (19 November 2012). "The Israeli Assault on Gaza: How Surgical Are the Strikes? Read more: http://world.time.com/2012/11/19/the-israeli-assault-on-gaza-how-surgical-is-surgical/#ixzz2CjmDMUsB". Time. http://world.time.com/2012/11/19/the-israeli-assault-on-gaza-how-surgical-is-surgical/. Adalwyd 20 Tachwedd 2012. 
  12. http://www.reuters.com/article/2012/11/21/us-palestinians-israel-gaza-idUSBRE8AK0H920121121
  13. http://www.huffingtonpost.com/2012/11/20/israel-gaza-attacks-truce-talk_n_2167093.html
  14. IAF bombs home of Hamas PM Haniyeh; not hurt, Jerusalem Post 16 Tachwedd 2012
  15. "Escalation in Hostilities, Gaza and southern Israel". Situation Report. United Nations Office for the Coordination of Humanitarian Affairs. 26 November 2012. http://www.ochaopt.org/documents/ochaopt_gaza_sitrep_26_11_2011_english.pdf. Adalwyd 28 Tachwedd 2012. 
  16. "Red Cross: Israel trapping 1.5m Gazans in despair". Haaretz. 2009-06-29. http://www.haaretz.com/hasen/spages/1096443.html. 
  17. "ICRC says Israel's Gaza blockade breaks law". BBC News. 14 Mehefin 2010. http://www.bbc.co.uk/news/10306193. 

Dolenni allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:

Gweler hefyd[golygu]