Afon Tweed
Oddi ar Wicipedia
Afon Tweed yn Coldstream.
Afon yn yr Alban a Lloegr yw afon Tweed (Saesneg: River Tweed, Gaeleg: Uisge Thuaidh). Mae'n 97 milltir o hyd.
Ceir tarddle'r afon ar Tweedsmuir, yn Tweed's Well. Llifa tua'r dwyrain, heibio Peebles, Galashiels, Melrose, Kelso a Coldstream. Am 27 km, ffurfia'r ffîn rhwng yr Alban a Lloegr gerllaw Berwick-upon-Tweed.
Mae'r afon yn adnabyddus am gynnig pysgota da am eog.