Berwick-upon-Tweed
Cyfesurynnau: 55°46′16″N 2°00′25″W / 55.771°N 2.007°W
| Berwick-upon-Tweed | |
|
|
|
| Poblogaeth | 11,665 |
|---|---|
| Awdurdod unedol | Northumberland |
| Swydd seremonïol | Northumberland |
| Rhanbarth | |
| Gwlad | Lloegr |
| Gwladwriaeth sofran | Y Deyrnas Unedig |
| Tref bost | BERWICK-UPON-TWEED |
| Cod deialu | 01289 |
| Yr Heddlu | |
| Tân | |
| Ambiwlans | |
| Senedd yr Undeb Ewropeaidd | Gogledd Ddwyrain Lloegr |
| Senedd y DU | Berwick-upon-Tweed |
| Rhestr llefydd: y DU • Lloegr • | |
Tref fwyaf gogleddol Lloegr yw Berwick-upon-Tweed (Cymraeg: Caerferwig). Saif yn sir Northumberland, ger aber afon Tweed. Mae 2.5 milltir (4 km) i'r de o'r ffîn rhwng Lloegr a'r Alban. Roedd y boblogaeth yn 11,665 yn 2001.
Mae Caerdydd 482.8 km i ffwrdd o Berwick-upon-Tweed ac mae Llundain yn 489.1 km. Y ddinas agosaf ydy Caeredin sy'n 75 km i ffwrdd.
Bu llawer o ymladd rhwng yr alban a Lloegr o'r 11eg ganrif ymlaen ynghych Berwick, a bu'n rhan o'r ddwy wlad ar brydiau. Wedi i Edward I, brenin Lloegr gipio'r dref yn 1296, lladdodd nifer fawr o'r trigolion. Mae wedi bod yn rhan o Loegr ers 1482.
Erys nifer o gysylltiadau a'r Alban, er enghraifft mae timau peldroed a rygbi'r undeb y dref yn chwarae yng nghyngrair yr Alban yn hytrach na Lloegr. Roedd Deddf Cymru a Berwick 1746 yn datgan fod unrhyw gyfeiriad at "Lloegr" yn cynnwys Cymru a Berwick.