Afon Tocantins
Oddi ar Wicipedia
Afon ym Mrasil yw Afon Tocantins neu Rio Tocantins. Gyda hyd o 2,640 km, hi yw'r afon ail-hwyaf sy'n gydangwbl o fewn Brasil, ar ôl afon São Francisco. Gellir ei mordwyo am tua 1,000 km hyd Lajeado.
Ceir tarddle'r Tocantins yn ne talaith Goiás, tua 100 km i'r gorllewin o'r brifddinas, Brasília. Mae'n llifo tua'r gogledd i gyrraedd cefnfor Iwerydd, ac yn llifo trwy daleithiau Tocantins, Maranhão a Pará. Weithiau fe'i hystyrir yn un o lednentydd afon Amazonas, gan ei bod yn rhannu aber a'r afon honno.