Afon São Francisco
Oddi ar Wicipedia
Afon yn Ne America yw afon São Francisco. Ceir ei tharddle yn nwyrain Brasil, yn y Serra da Canastra yn nhalaith Minas Gerais, ac mae'n llifo trwy daleithiau Bahia, Sergipe, Pernambuco ac Alagoas am 3,199 km i gyrraedd Cefnfor yr Iwerydd.
Llifa'r São Francisco tua'r gogledd, a cheir nifer o gronfeydd dŵr mawr arni, cronfa Três-Marias, cronfa Sobradinho a chronfa Itaparica. Gellir ei mordwyo am 1,368 km..