Afon Araguaia
Oddi ar Wicipedia
Afon ym Mrasil sy'n un o lednentydd Afon Tocantins yw afon Araguaia. Mae'n 2,627 km o hyd, o'i tharddle ar Ucheldir Mato Grosso yn nhalaith Goiás hyd nes iddi ymuno ag afon Tocantins gerllaw São João do Araguaia. Am ran o'i chwrs, mae'r afon yn ymrannu'n ddwy, gan greu Ynys Bananal, ynys mewn afon ail-fwyaf y byd.