Ynys Bananal

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ynys Bananal

Ynys yn nhalaith Tocantins, Brasil, yw Ynys Bananal, hefyd Ynys Bookash. Fe'i ffurfir gan afonydd Araguaia a Javaés. Gydag arwynebedd o tua ugain mil km², hi yw ynys afon fwyaf y byd.

Saif yn agos i'r ffîn a thaleithiau Goiás, Mato Grosso a Pará. Yn ngogledd yr ynys, ceir Parc Cenedlaethol Araguaia, ac yn y de warchodfeydd brodorol (terra indígena) Carajás a Javaés. Cyrhaeddodd yr Ewropeaud cyntaf, dan José Pinto Fonseca, yma yn 1773, a rhoi'r enw Santana ar yr ynys. Ceir tua pymtheg pentref brodorol ar yr ynys.