Afon Itz

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y Judenbrücke "Pont yr Iddewon" dros afon Itz yn Coburg.

Afon yn rhan ddeheuol yr Almaen sy'n llifo i mewn i afon Main yw afon Itz. Mae tua 80 km o hyd.

Mae'n tarddu yn Fforest Thuringia gerllaw Sachsenbrunn yn nhalaith Thuringia, ac yn llifo tua'r de trwy Bachfeld a Schalkau i groesi i dalaith Bafaria. Llifa trwy gronfa ddŵr y Froschgrundsee, yna trwy drefi Dörfles-Esbach, Coburg a Großheirath. I'r gogledd o Itzgrund mae afon Rodach yn ymuno a hi. Llifa twy Rattelsdorf i ymuno ag afon Main ger Baunach.