Coburg

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y Moritzkirche, Coburg

Dinas yn nhalaith ffederal Bafaria yn yr Almaen yw Coburg. Saif ar afon Itz, ac roedd y boblogaeth yn 42,015 yn 2005. Hyd 1918, y ddinas oedd preswylfa Tywysogion Sachsen-Coburg. Mae'r castell yma yr ail-fwyaf yn yr Almaen.

Ceir y cyfeiriad cyntaf at Coburg yn 1056, a gwnaed hi yn ddinas yn 1331. Rhwng 1586 a 1633, roedd Coburg yn brifddinas Tywysogaeth Sachsen-Coburg, ac o 1735 yn brifddinas Tywysogaeth Sachsen-Coburg-Saalfeld, yna o 1826 yn brifddinas Tywysogaeth Sachsen-Coburg a Gotha.