Afon Colorado (Arizona)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Dalgylch Afon Colorado

Afon yn yr Unol Daleithiau a Mecsico yw Afon Colorado (Saesneg: Colorado Rover; Sbaeneg: Río Colorado, sy'n cyrraedd y môr yng Ngwlff Califfornia.

Mae'r afon yn 2333 km o hyd ac yn llifo trwy daleithiau Colorado, Utah, Arizona, Nevada a California yn yr Unol Daleithiau a Baja California a Sonora ym Mecsico. Ceir ei tharddiad wrth droed mynyddoedd y Rockies yn nhalaith Colorado. Hyd 1921 defnyddid yr enw Colorado ar gyfer yr afon islaw cymer y Grand River a'r Green River yn mhalaith Utah, ond y flwyddyn honno pasiwyd cais gan dalaith Colorado i ddefnyddio'r enw Colorado ar gyfer holl gwrs yr afon.

Yn nhalaith Arizona, crewyd y Grand Canyon gan Afon Colorado.

Afon Colorado