Afon Brazos
Oddi ar Wicipedia
Afon Brazos o fewn talaith Texas
Afon yn nhalaith Texas yn yr Unol Daleithiau yw afon Brazos. Mae'n 2,060 km o hyd. Ceir ei tharddle tua 100 km i'r gogledd o Abilene ac mae'n cyrraedd Gwlff Mexico gerllaw Freeport (90 km i'r de o Houston).
Daw'r enw o'r Sbaeneg Los brazos de dios ("Breichiau Duw").
[golygu] Trefi ar afon
- Seymour, Graham, Palo Pinto, Mineral Wells
- Granbury, Glen Rose, Waco, Marlon
- Bryan, Navasota, Hempstead,
Pont reilffordd dros afon Brazos ger Waco.