Adam Smith

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Adam Smith

Athronydd Albanaidd oedd Adam Smith (Mehefin 1723 - 17 Gorffennaf, 1790). Mae'n fwyaf adnabyddus fel awdur dau lyfr, The Theory of Moral Sentiments (1759), a An Inquiry into the Nature and Causes of the Wealth of Nations (1776). Roedd yn un o sylfaenwyr astudiaeth economeg fel pwnc academaidd.

Ganed ef yn Kirkcaldy, Fife, Yr Alban; nid oes sicrwydd am ddyddiad ei eni, ond bedyddiwyd ef ar 5 Mehefin 1723. Aeth i Brifysgol Glasgow yn 14 oed, lle astudiodd athroniaeth foesol. Yn 1740 aeth i Goleg Balliol, Rhydychen.

Yn 1748 dechreuodd roi darlithoedd cyhoeddus yng Nghaeredin, a daeth i adnabod David Hume. Yn 1751 daeth yn Athro rhesymeg ym Mhrifysgol Glasgow. Cyhoeddodd The Theory of Moral Sentiments yn 1759. Ymddangosodd The Wealth of Nations yn 1776, a gwnaeth ei awdur yn enwog.

Ystyrir ef yn un o brif gefnogwyr y syniad o Laissez-faire a'r farchnad rydd; gyda'r egwyddor fod system ecomomaidd lle mae pawb yn dilyn ei les ei hun yn arwain at fwy o gyfoeth i bawb.

Prif weithiau[golygu]