Kirkcaldy

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lluniau o Kirkcaldy

Tref a chyn-burgh brenhinol yn Fife, ar arfordir dwyreiniol yr Alban yw Kirkcaldy (Sgoteg: Kirkcaldy, Gaeleg yr Alban: Cair Chaladain). Lleolir tua 18.6 milltir i'r gogledd o Gaeredin, a 44.4 milltir i'r de-orllewin Dundee. Mae Caerdydd 515 km i ffwrdd o Kirkcaldy ac mae Llundain yn 549.2 km. Y ddinas agosaf ydy Caeredin sy'n 18 km i ffwrdd.

Amcangyfrwyd poblogaeth o tua 48,630 in 2008, felly hon yw'r anheddiad mwyaf yn Fife. Mae Kirkcaldy wedi cael y llysenw Lang Toun, o'r Sgoteg am dref hir, ers amser maith, gan gyfeirio at brif stryd cynnar y dref a oedd 0.9 milltir o hyd, fel ddynodwyd ar fapiau'r 16eg a'r 17fe ganrif. Yn ddiweddarach, tyfodd yn 4 milltir o hyd wrth i'r anheddiadau gerllaw, sef Linktown, Pathhead, Sinclairtown a Gallatown, gael eu cysylltu.

Mae'r cofnod cyntaf o'r dref yn dyddio o 1075, pan roddodd Malcolm III sir Kirkcaladunt i eglwys Dunfermline (Abaty Dunfermline yn ddiweddarach). Odan Robert I, ym 1327 newidiodd statws Kirkcaldy o fod yn drefedigaeth i fod yn burgh a oedd yn ddibynadwy ar Abaty Dunfermline. Ym 1451, cafodd statws feu-ferme a roddodd iddo annibynniaeth rhannol oddiwrth yr abaty; derbyniodd annibynniaeth llawn drwy siarter brenhinol gan Siarl I ym 1644.

Flag of Scotland.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Yr Alban. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato