A. J. Sylvester

Oddi ar Wicipedia
A. J. Sylvester
Ganwyd1889 Edit this on Wikidata
Bu farw1989 Edit this on Wikidata
Gwobr/auCBE Edit this on Wikidata

Bu Albert James Sylvester CBE JP (24 Tachwedd 1889 – 27 Hydref 1989) yn Brif Ysgrifennydd Preifat i'r gwladweinydd David Lloyd George o 1923 hyd at farwolaeth Lloyd George ym Mawrth 1945.

Yn enedigol o Harlaston, Swydd Stafford, bu Sylvester yn ysgrifennydd preifat i Ysgrifennydd i'r Pwyllgor Amddiffyn Ymerodrol, 1914–1921, i Ysgrifennodd y Cabinet Rhyfel a'r Cabinet, 1916–1921, i Ysgrifennydd y Cabinet Rhyfel Ymerodrol, 1917, i Ysgrifennydd Prydeinig Cynhadledd Heddwch Paris, 1919, ac i dri Prif Weinidog yn olynol rhwng 1921 a 1923: Lloyd George, Bonar Law a Stanley Baldwin. Roedd yn gyfrifol am redeg swyddfa breifat Lloyd George yn Llundain.

Yn dilyn marwolaeth Lloyd George, bu A. J. Sylvester yn ennill ei fywoliaeth fel aelod o staff yr Arglwydd Beaverbrook rhwng 1945 a 1948, ac fe dreuliodd flwyddyn arall fel cynorthwy-ydd di-dal i arweinydd y Blaid Ryddfrydol, Clement Davies.

Yn 1947, cyhoeddodd The Real Lloyd George, yn seiliedig ar ei ddyddiaduron. Yn 1949, ymddeolodd o fywyd gwleidyddol, a symudodd i fferm yn Corsham, Wiltshire, Lloegr, ble bu'n Ynad Heddwch. Methodd a chyflawni ei uchelgais i gyhoeddi hunan-gofiant. Mae ei bapurau sydd ar gadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn rhoi mewnwelediad i fywyd Lloyd George wedi iddo gael ei ddisodli fel Prif Weinidog yn 1922.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]