Darllen

Oddi ar Wicipedia
Darllen
Mathgweithgaredd, gwybyddiaeth Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Paentiad gan Joshua Reynolds o Samuel Johnson yn darllen llyfr

Proses wybyddol o ddehongli symbolau er mwyn eu deall yw darllen. Mae darllen yn fodd o gaffaeliad iaith, o gyfathrebu, ac o rannu gwybodaeth a syniadau. Mae llythrennedd yn golygu'r gallu i ddarllen testun iaith yn awtomatig fel bod sylw ar gael yn hollol er mwyn dadansoddi'r hyn sy'n cael ei ddarllen. Mae deunyddiau darllen yn cynnwys llyfrau, papurau newydd, cylchgronau, pamffledi, a llythyron.

Nid yw rhai mathau o ddarllen yn seiliedig ar systemau ysgrifennu, megis nodiant cerddorol neu bictogramau.

Mae yna wahanol strategaethau darllen sy'n cael eu dewis gan ddarllenwyr am resymau pwrpas darllen (chwilio, rhagarweiniol, haniaethol a dysgu darllen) ac am resymau hwylustod.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am adloniant neu hamdden. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Chwiliwch am Darllen
yn Wiciadur.