Zoë Skoulding

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Zoë Skoulding
Zoë Skoulding (bw portrait).jpg
Ganwyd Tachwedd 1967 Edit this on Wikidata
Bradford Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaeth Bardd, Ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Mae Zoë Skoulding (ganwyd 18 Tachwedd 1967) yn fardd, a'i gwaith yn cynnwys cyfieithu, golygu, perfformiadau sŵn/llais, beirniadaeth lenyddol a dysgu ysgrifennu creadigol. Mae ei gwaith wedi'i gynnwys mewn nifer o antholegau, ac mae wedi ei gyfieithu i 18 o ieithoedd a'i gyflwyno'n eang mewn gwyliau rhyngwladol.

Mae hi'n Uwch Ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor, ble mae ei gwaith ymchwil yn canolbwyntio ar ofod trefol, barddoniaeth gyfoes gan ferched a chyfieithu. [1]

Yn 2014 cafodd ei chasgliad The Museum of Disappearing Sound ei enwebu ar restr fer Gwobr Ted Hughes am waith newydd.[2]

Mae hi wedi cymryd ran mewn nifer o brosiectau cyfieithu cydweithiol yn cynnwys Metropoetica,[3] a ganolbwyntiodd ar farddoniaeth y ddinas , ac mae hi wedi cyfieithu cerddi'r bardd Lwcsembwrgeg Jean Portant o'r Ffrangeg.

Mae ei chyd-weithiau yn cynnwys y grŵp Parking Non-Stop a pherfformiadau sŵn/celf/barddoniaeth gydag Alan Holmes.[4]

Roedd yn olygydd y cylchgrawn Poetry Wales[5] rhwng 2008 a 2014 a chanolbwyntiodd ar ffocws rhyngwladol gan gynnwys mwy o waith arbrofol.[6]

Mae hi wedi ysgrifennu geiriau ar gyfer caneuon cerddorion Cymreig Rheinallt H Rowlands a David Wrench, a hefyd bu'n chwarae bâs, ac wedi perfformio gyda The Serpents.

Bywyd personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Skoulding yn Bradford, Swydd Efrog yn 1967. Wedi byw yn East Anglia, India a Gwlad Belg, mae Zoë Skoulding yn awr yn byw yng ngogledd Cymru gyda'i gŵr, y cerddor Alan Holmes.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Casgliadau Barddoniaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • 2016 "Teint: For the Bièvre"
  • 2013 "The Museum of Disappearing Sounds"
  • 2008 "Remains of a Future City"
  • 2008 "From Here" (gyda Simonetta Moro)
  • 2007 "Dark Wires" (gydag Ian Davidson)
  • 2004 "The Mirror Trade" (Seren, 2004)
  • 1998 "Tide Table" (Gwasg Pantycelyn, 1998).

Cyhoeddiadau eraill[golygu | golygu cod y dudalen]

  • 2013 "Placing Poetry" (golygu gydag Ian Davidson)
  • 2013 "Metropoetica - Poetry and urban space: women writing cities" gydag Ingmāra Balode, Julia Fiedorczuk, Sanna Karlström, Ana Pepelnik, Sigurbjörg Þrastardóttir, Elżbieta Wójcik-Leese)
  • 2008 "Crwydro / Marcheurs Des Bois: A Wales Quebec Ambulation" (gyda Daniel Poulin a Simon Whitehead)
  • 2009 "You Will Live in Your Own Cathedral" (tair-ieithog llyfryn a CD sain gydag Alan Holmes], Richard Hopewell, Monika Rinck, Eva Klimentova, Alexandra Buchler)

Cerddi mewn antholeg[golygu | golygu cod y dudalen]

  • 2015 "Out of Everywhere 2: Linguistically Innovative Poetry by Women in North America and the UK", Gol. Emily Critchley
  • 2015 "Debajo la Hierba. Arriba la Bóveda del Cielo: Ventanas al Paisaje Británico" [Cyfieithiad Sbaeneg] Adriana Díaz Encisco - Mexico: Elefanta Editorial
  • 2015 "Nuestra Tierra de Nadie: Poesía Galesa Contemporánea" [Cyfieithiad Sbaeneg] Victor Rodriguez Nuñez and Kate Hedeen (Mexico: La Otra,
  • 2012 "Best British Poetry 2012" (gol. Sasha Dugdale, Salt).
  • 2011 "The Ground Aslant : Radical Landscape Poetry" (gol. Harriet Tarlo, Shearsman).
  • 2010 "Infinite Difference : Other Poetries by UK Women Poets" (gol. Carrie Etter, Shearsman).
  • 2010 "Identity Parade" (gol. Roddy Lumsden, Bloodaxe).
  • 2008 "Women's Work: Modern Women Poets Writing in English" (gol. Amy Wack and Eva Salzman, Seren).

Discogaffi[golygu | golygu cod y dudalen]

  • 1996 Rheinallt H RowlandsBukowski
  • 1997 David Wrench – Black Roses
  • 1997 David Wrench – Blow Winds Blow
  • 1997 David Wrench – The Ballad of the Christmas Tree and the Silver Birch
  • 1998 The Serpents – No Mask, No Cloak, Dim Gobaith
  • 1999 The Serpents – You Have Just Been Poisoned by the Serpents
  • 2001 Various artists – Infrasonic Waves
  • 2006 Faust – Faust... in Autumn
  • 2007 Amrywiol – Klangbad Festival 2007
  • 2008 Parking Non-Stop - Species Corridor
  • 2009 Zoë Skoulding - You Will Live in Your Own Cathedral
  • 2010 Parking Non-Stop - Cold Star

Detholiad o berfformiadau a gwyliau diweddar[golygu | golygu cod y dudalen]

  • 2016 Maison de la Poésie, Paris;
  • 2016 Managua International Poetry Festival. Nicaragua
  • 2015 Festival of Sound at Magdalene College, Caergrawnt
  • 2015 The Poetry Experiment, Caerdydd
  • 2015 Izmir Poetry Festival, Twrci
  • 2015 Gelynion/Enemies tour, Abertwae, Casnewydd, Bangor, Caerdydd, Llundain
  • 2015 Mlade Rime Festival, Slofenia
  • 2015 Blue Bus, Llundain
  • 2015 Voci lontane Voci sorelle poetry festival, Florence
  • 2015 Globe Road Festival, Llundain
  • 2014 Poets Live, Paris
  • 2014 Poètes en résonances, Paris
  • 2014 Printemps de poètes, Paris.
  • 2014 Storm and Golden Sky Series Lerwpl
  • 2014 Prifysgol Sheffield
  • 2014 Ledbury Festival
  • 2014 The Mosaic Rooms, Llundain
  • 2014 Waterstones, Manceinon
  • 2013 Nazim Hikmet Centre, Istanbul
  • 2013 Stanza Festival, St Andrews
  • 2013 Kenyon College, Unol Daleithiau
  • 2013 Prague Bookworld, Gweriniaeth Czech
  • 2013 Reading Poetry Festival
  • 2013 Gŵyl Avant-Garde, Schiphorst
  • 2013 Gŵyl Farddoniaeth Reading
  • 2013 Prague Bookworld
  • 2013 Gŵyl Stanza, St Andrews
  • 2012 Ffiesta Ffuglen, Caerdydd
  • 2012 Gŵyl Dinefwr
  • 2012 Poets Live, Paris
  • 2012 Ars Cameralis, Katowice
  • 2011 Gŵyl Bodø, Norwy (gyda Parking Non-Stop)
  • 2011 Control Club, Bucharest (gyda Parking Non-Stop)
  • 2011 Gŵyl Farddoniaeth Novi Sad, Serbia
  • 2011 Nosweithiau Barddoniaeth Struga, Macedonia
  • 2011 Gŵyl Farddoniaeth y Byd, Venezuela
  • 2011 Gŵyl Ledbury (gyda Poetry Connections)
  • 2011 Dasein Café, Athen
  • 2011 Gŵyl Porth Wroclaw Gwlad Pwyl (gyda Metropoetica)
  • 2011 Café Fra, Prague
  • 2010 Gŵyl Farddoniaeth Ryngwladol Granada, Nicaragua
  • 2010 Cyfres The Other Room, Manceinion
  • 2010 Printemps de Poètes, Lwcsembwrg
  • 2010 Lyd+Litteratur Aarhus, Denmarc
  • 2010 Riga Poetry Evenings, Latfia (gyda Metropoetica)
  • 2010 Darlleniadau a pherffomio ym Pondicherry, Chennai, Pune a Trivandrum fel rhan o Poetry Connections gyda Llenyddiaeth ar draws Ffiniau gyda'r British Council [7]
  • 2009 AWEN Gŵyl Ryngwladol Barddoniaeth a Ffilm, ATRiuM, Caerdydd
  • 2009 Berlin Poesiefestival
  • 2009 Vilenica Festival, Slofenia (gyda Metropoetica)
  • 2009 Ars Poetica, Bratislafa
  • 2008 Gŵyl Nødutgang, Bodø, Norwy
  • 2008 Gŵyl Medana, Slofenia

Cysylltiau[golygu | golygu cod y dudalen]

Cerddi ar-lein

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. [1]
  2. https://serenbooks.wordpress.com/2014/03/03/zoe-skoulding-shortlisted-for-the-ted-hughes-award-for-new-work/
  3. [2]
  4. [3]
  5. Zoe Skoulding editor Poetry Wales from 2008
  6. [Malcolm Ballin, Welsh Periodicals in English 1882-2012. Cardiff: University of Wales press, 2013, pp. 129 and 180]
  7. [4]