Zenobia (planhigyn)

Oddi ar Wicipedia
Zenobia
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Asteridau
Urdd: Ericales
Teulu: Ericaceae
Genws: Zenobia
D. Don
Rhywogaeth: Z.pulverulenta
Enw deuenwol
Zenobia pulverulenta
(Bartram ex Willd.) Pollard

Zenobia pulverulenta (Saesneg: Honeycup) yw'r unig rywogaeth yn y genws Zenobia, yn nheulu planhigyn blodeuog yr Ericaceae. Mae'n blanhigyn sy'n frodorol i dde-ddwyrain yr Unol Daleithiau, yn Virginia, Gogledd Carolina a De Carolina.

Mae'n goeden fach gollddail neu rhannol-fytholwyrdd sy'n cyrraedd rhwng 0.5-1.8 m. Trefnir y dail yn droellog, yn wyffurf neu'n eliptig, â hyd 2–7 cm. Mae'r blodau yn wyn, o siâp clychog, hyd 12 mm a lled 10 mm, a chanddynt oglau persawrus, melys. Mae'r ffrwythau yn gapsiwls sych pump falf.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]