Yvonne McGregor
Gwybodaeth bersonol | |
---|---|
Enw llawn | Yvonne McGregor |
Dyddiad geni | 9 Ebrill 1961 |
Manylion timau | |
Disgyblaeth | Ffordd |
Rôl | Reidiwr |
Math seiclwr | Treialon Amser & Pursuit |
Prif gampau | |
Treial Amser, Gemau'r Gymanwlad Gemau'r Gymanwlad x2 Gemau Olympaidd | |
Golygwyd ddiwethaf ar 26 Medi, 2007 |
Seiclwriag rasio Seisnig ydy Yvonne McGregor MBE (ganwyd 9 Ebrill 1961, Wibley, Bradford)[1]. Er iddi fod yn llwyddiannus ym myd seiclo, dechreuodd seiclo yn gymharol hwyr yn ei gyrfa yn 29 oed yn 1990, bu'n rhedwraig ffriddoedd metrus am gynt.[2]
Cynyrchiolodd Loegr yng Ngemau'r Gymanwlad yn Kuala Lumpur, Maleisia, yn 1994; yno enillodd y fedal aur yn y Ras Bwyntiau, medal efydd yn y Pursuit a'r Treial Amser, cystadlodd hefyn yn y ras ffordd.[3]
Cynyrchiolodd Brydain yn Pursuit a Treial Amser y Gemau Olympaidd 1996 yn Atlanta ac unwaith eto yn Sydney yn 2000, yn y ras ffordd a'r Pursuit, enillodd fedal efydd yn y Pursuit.[1]
Cafodd ei hanrhydeddu gyda MBE yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Franhines yn 2002.[2]
Cyn ymddeol o seiclo cystadleuol, roedd Yvonne yn benderfynnol o gyflawni un campwaith olaf, gwnaeth hyn ar ffurf gosod Record Ewropeidd yr Awr merched newydd, gan reidio 43.689 km mewn awr ar y trac ym Manceinion. Curodd y record gynt, a osodwyd yn 1978 gan Cornelia Van Oosten-Hage, 43.083 km, o 503 metr yn ychwanegol. Curodd hefyd y record answyddogol, 43.475 km, a osodwyd gan Leontien Van Moorsel y mis medi cynt.[4]
Canlyniadau
[golygu | golygu cod]- 1994
- 1af Ras Bwyntiau (25km), Gemau'r Gymanwlad
- 3ydd Pursuit, Gemau'r Gymanwlad
- 3ydd Treial Amser, Gemau'r Gymanwlad
- 1999
- 2il Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd Prydain
- 4ydd Pursuit, Gemau Olympaidd
- 2000
- 3ydd Pursuit, Gemau Olympaidd
- 3ydd Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd Prydain
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "Gwefan swyddogol y Gemau Olympaidd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-02-03. Cyrchwyd 2007-09-26.
- ↑ 2.0 2.1 Cyclist McGregor honoured Rhagfyr 2001
- ↑ "Gwefan swyddogol Gemau'r Gymanwlad". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2002-08-10. Cyrchwyd 2007-09-26.
- ↑ MCGREGOR'S AGONY OVER: SUCCESS IN EUROPEAN HOUR Archifwyd 2005-04-16 yn y Peiriant Wayback British Cycling