Ystorya Dared

Oddi ar Wicipedia
Ystorya Dared
Coleg yr Iesu Rhydychen ,MS-111
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Canol Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi13 g Edit this on Wikidata

Addasiad Cymraeg Canoloesol o'r Historia Daretis Phrygii de excidio Troiae yw Ystorya Dared, sef cyfrif o ddinistr Caerdroea (Troy) a briodolir i Dares Phrygius. Fe'i ceir fel llawysgrif o fewn Llyfr Coch Hergest (a gedwir yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen MS 111; c. 1375-1425) ac yn y Llyfrgell Genedlaethol (NLW MS. Peniarth 19). Mae'r llawysgrif ei hun, sy'n llyfryn hanes, mewn gwirionedd, wedi ei dyddio i'r 13g.[1]

Caiff ei olynu gan Frut y Brenhinedd. Mae'n fersiwn frodorol, mewn rhyddiaith, ac mae'n sôn am ddinistr Caerdroea. Dares Phrygius, ysgrifennwr tybiedig fersiwn Lladin y 6g, De Excidio Troiae Historia a roddodd ei enw i'r hanes Wedi'i hysgrifennu ar ddechrau'r 14g, ysgrifennwyd Ystorya Dared o flaen unrhyw un o'r pedair fersiwn Saesneg ac ymddengys ei bod wedi'i seilio'n uniongyrchol ar destun Lladin Dares, yn wahanol i'r fersiynau Saesneg sy'n addasiadau o Guido delle Colonne a'i ragflaenydd Benoît de Saint-Maure. O fewn mynachlogydd Sistersaidd Cymru y sgwennwyd y gwaith.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Y golygiad safonol o'r testun yw:

  • Geraint Bowen (gol.), Y Traddodiad Rhyddiaith yn yr Oesau Canol (Gwasg Gomer, 1974)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. www.vanhamel.nl; Archifwyd 2021-07-16 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 16 Gorffennaf 2021.