Ysgol Rhyd y Llan
Math | ysgol gynradd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.353604°N 4.534134°W |
Cod post | LL65 4PH |
Ysgol gynradd yn Llanfaethlu, Ynys Môn, yw Ysgol Rhyd y Llan yn nhalgylch ysgol Uwchradd Bodedern.
Pennaeth yr ysgol yw Nia Lloyd Thomas. Mae hi'n ysgol cyfrwng Cymraeg ac mae tua 150 o blant ar y gofrestr.
Cychwynwyd yr ysgol yn 2017 drwy gau a chyfuno ysgolion Ysgol Ffrwd Win, Ysgol Llanfachraeth ac Ysgol Cylch y Garn.[1] Gwnaed nifer fawr o ddarganfyddiadau archeoloegol wrth i'r ysgol cael ei hadeiladu, gyda tai Neolithig yn dyddio nôl dro 6,000 o flynyddoedd.[2]
Mae 7 dosbarth lliw gwahanol yn yr ysgol gan cynnwys Coch, Gwyrdd, Glas, Piws, Leim, Melyn, a Glas Golau. Mae'r feithrinfa wedi symud o'r ty coffi ym mhentref Llanfaethlu i'r ysgol. Y cwmni yno yw Mudiad Meithrin. Mae yna glwb pêl-droed pob nos Fawrth a chlwb ymarfer corff hefo'r urdd bob nos Iau.
Llwyddodd yr ysgol i ennill y gwpan Mrs Woolie yn Eisteddfod yr Urdd. Grwp o 6 o blant yn blwyddyn 4 cafodd y gwpan am y darn o gelf gorau yn Eisteddfod yr Urdd.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Adroddiadau Estyn". Estyn. 27 Awst 2019. Cyrchwyd 2024-04-25.
- ↑ "Ysgol Rhyd y Llan - Constructing Excellence". constructingexcellence.org.uk (yn Saesneg). 2018-08-08. Cyrchwyd 2024-04-25.