Neidio i'r cynnwys

Ysgol Maes y Gwendraeth

Oddi ar Wicipedia
Ysgol Maes Y Gwendraeth
Mathysgol ddwyieithog Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Medi 2013 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadCefneithin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.8028°N 4.0907°W Edit this on Wikidata
Cod postSA14 7DT Edit this on Wikidata
Map
Ysgol Maes Y Gwendraeth
ArwyddairCyfoeth Bywyd Addysg
Sefydlwyd2013
MathYsgol Gyfun
Mr Arwyn Thomas
Lleoliad24 Heol Y Parc
Cefneithin
Sir Gaerfyrddin
SA14 7DT
Cymru Cymru
Awdurdod lleolCyngor Sir Gâr
RhywMerched a Bechgyn
Ystod oedran11–19
Gwefanmaesygwendraeth.org

Ysgol gyfun ddwyieithog ym mhentref Cefneithin, Sir Gaerfyrddin, yw Ysgol Maes y Gwendraeth. Mae'n ysgol uwchradd ddwyieithog ar gyfer disgyblion rhwng 11 a 18 oed. Fe'i hagorwyd yn 2013 ar ôl uno Ysgol Maes yr Yrfa ac Ysgol y Gwendraeth. Yn 2023, roedd 1108 o ddisgyblion wedi eu cofrestru yno, gyda 181 o ddisgyblion yn y chweched ddosbarth.[1]

Cymraeg yw iaith swyddogol yr ysgol o ddydd i ddydd, a hi yw'r iaith a ddefnyddir ar gyfer gwneud y gwaith gweinyddol a chymdeithasu hefyd.[2] Yn ôl Llywodraeth Cymru mae gan yr ysgol Gategori 2A o ran statws ieithyddol. Ystyr hyn yw bod o leiaf 80% o'r pynciau (heblaw am Saesneg a Chymraeg) yn cael eu dysgu i bob disgybl drwy gyfrwng y Gymraeg. Fodd bynnag, caiff un neu ddau o bynciau eu dysgu i rai ddisgyblion drwy gyfrwng y Saesneg, neu yn y ddwy iaith. Mae'r ysgol yn nodi bod pob pwnc yn cael ei ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, ac eithrio Saesneg a Gwyddoniaeth (sy'n cael eu dysgu yn iaith ddewisol y disgybl o flwyddyn 8 ymlaen). 

Mae'r ysgol yn cystadlu yn yr Eisteddfod yn flynyddol. 

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Estyn - Adroddiad ar Ysgol Maes Y Gwendraeth" (PDF). www.maesygwendraeth.org. Tachwedd 2023. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2025-10-28. Cyrchwyd 8 Medi 2025.
  2. "School Prospectus 2018-2019" (PDF). Ysgol Maes Y Gwendraeth website. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2018-03-13. Cyrchwyd 12 Mawrth 2018.