Ysgol Henry Richard

Oddi ar Wicipedia
Ysgol Henry Richard
Arwyddair Mewn Llafur Mae Elw
Sefydlwyd 2014
Math y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Dwyieithog
Pennaeth Dorian Pugh
Dirprwy Bennaeth Huw Bonner
Lleoliad Heol Llanbed, Tregaron, Ceredigion, Cymru Cymru, SY25 6HG
AALl Cyngor Ceredigion
Disgyblion tua 302
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 3–16
Llysoedd Aeron      Teifi      Ystwyth     
Lliwiau Llwyd      Coch      Du     
Gwefan http://www.ysgolhenryrichard.cymru


Mae Ysgol Henry Richard yn ysgol dwyieithog 3-16 oed yn Nhregaron Ceredigion. Agorwyd yn 2014 lle bu'n gweithredu ar dair safle. Er hyn bu'n gweithredu fel ysgol un campws o fis Hydref 2018 ymlaen.[1] Agorwyd yr ysgol yn swyddogol ar 11eg o Orffennaf 2019 gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford.[2] Crëwyd yr ysgol ar ôl uno ysgolion cynradd Tregaron a Llanddewi Brefi gydag Ysgol Uwchradd Tregaron.[3] Daw enw'r ysgol o un o enwogion y dref sef Henry Richard AS.

Lleolir ysgol Henry Richard ar gampws yr hen Ysgol Uwchradd yn Nhregaron. Adeiladwyd estyniad i'r adeilad lle lleolir y sector gynradd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "School extension opening delayed" (yn Saesneg). 2018-08-21. Cyrchwyd 2019-08-27.
  2. "Cyngor Sir Ceredigion". www.ceredigion.gov.uk. Cyrchwyd 2019-08-27.
  3. "Super-school option in shake-up" (yn Saesneg). 2013-05-23. Cyrchwyd 2019-08-27.

Dolen allanol[golygu | golygu cod]