Ysgol Gyfun Gwent Is Coed

Oddi ar Wicipedia

Ysgol Uwchradd cyfrwng Cymraeg yw Ysgol Gyfun Gwent Is Coed, wedi'i lleoli yng Nghasnewydd yn Ninas a Sir Casnewydd ac yn yr hen Sir Gwent. Fe'i hagorwyd yn 2016 yn dilyn ymgyrchu lleol a thwf Addysg Gymraeg ar draws yr hen Went yn cynyddu. Dyma ysgol Uwchradd cyfrwng Cymraeg gyntaf yng Nghasnewydd a'r drydedd yng Ngwent. Bwydir yr ysgol gan dair ysgol gynradd yng Nghasnewydd, sef Ysgol Ifor Hael, Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon, Ysgol Gymraeg Casnewydd a phedwaredd ysgol yn ne Sir Fynwy, sef Ysgol Gymraeg y Ffin. Pan agorwyd yr ysgol yn gyntaf rhannodd safle gydag Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon am ddwy flynedd cyn symud i adeilad newydd yn ardal Dyffryn, dafliad carreg o dŷ Tredegar ger cyffordd 28 yr M4 yn 2018.

Agorwyd yr ysgol y swyddogol yn Rhagfyr 2016 ar safle Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon gan y Cyngorydd ac arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd ar y pryd, Ms Debbie Wilcox.

Penaethiaid[golygu | golygu cod]

Pennaeth cyntaf yr ysgol oedd Ms Rhian Wyn Dafydd a fu, cyn ei apwyntiad yn ddirprwy bennaeth yn Ysgol Gyfun Gwynllyw ym Mhontypŵl. Ymddeolodd Ms Rhian Wyn Dafydd ym mis Mawrth 2020.

Dirprwy bennaeth yr ysgol yw Mrs Abigail Williams.

Ym Mehefin 2020 dechreuodd Mrs Eirian Jones fel pennaeth newydd yr ysgol. Cyn ei swydd yn Ysgol Gyfun Gwent Is Coed yr oedd yn ddirprwy bennaeth yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, Caerffili.

Dosbarthiadau[golygu | golygu cod]

Cychwynnodd yr ysgol fesul blwyddyn gan gychwyn gyda:

Blwyddyn 7 ym Medi 2016

Blwyddyn 7 ac 8 ym Medi 2017

Blwyddyn 7,8 a 9 ym Medi 2018

Blwyddyn 7,8,9 a 10 ym Medi 2019

Blwyddyn 7,8,9,10 ac 11 ym Medi 2020.

Bydd yr ysgol yn cyrraedd ei llawn dwf am y tro cyntaf ym Medi 2022.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]