Yr Eneth Ga'dd ei Gwrthod

Oddi ar Wicipedia

Cân werin yw Yr Eneth Ga’dd ei Gwrthod. Ysgrifennwyd y gân gan awdur anhysbys. Mae’n seiliedig ar hanes gwir Jane Williams o Gynwyd. Boddodd hi yn Afon Dyfrdwy ym mis Gorffennaf, 1868. Yn ôl dedfryd y crwner, boddodd hi heb dystiolaeth o ormes. Roedd hi wedi syrthio mewn cariad efo porter yng ngorsaf reilffordd Caer ond wedi cael ei gwrthod ganddo ac wedyn gan ei theulu, er bod ei theulu wedi gwadu hyn.[1]

Y Gân[golygu | golygu cod]

Ar lan hen afon Ddyfrdwy ddofn eisteddai glân forwynig
Gan ddistaw sibrwd wrth'i hun "Gadawyd fi yn unig
Heb gâr na chyfaill yn y byd, na chartref i fynd iddo
Drws ty fy nhad sydd wedi'i gloi, 'Rwy'n wrthodedig heno."

Mae bys gwaradwydd ar fy ôl, yn nodi fy ngwendidau,
A llanw 'mywyd wedi ei droi, a'i gladdu dan y tonnau ;
Ar allor serch aberthwyd fi, do, collais fy morwyndod,
A dyna' pam y gwelwch chi fi heno wedi 'ngwrthod.

Ti frithyll bach, sy'n chwareu'n llon yn nyfroedd glan yr afon
Mae gennyt ti gyfeillion fyrdd a noddfa rhag gelynion
Cei fyw a marw dan y dwr, heb neb i dy adnabod
O! na chawn innau fel tydi gael marw, a dyna ddarfod.

Ond 'hedeg mae fy meddwl prudd i fyd sydd eto i ddyfod
A chofia dithau fradwr tost rhaid i ti fy nghyfarfod
Mae meddwl am dy eiriau di a byw sydd i mi'n ormod
O, afon ddofn, derbynia fi caf wely ar dy waelod".

Y boreu trannoeth cafwyd hi yn nyfroedd oer yr afon.
A darn o bapur yn ei llaw ac arno'r ymadroddion
"Gwnewch imi fedd mewn unig fan, a chodwch faen na chofnod
I nodi'r fan lle gorwedd llwch Yr Eneth ga'dd ei Gwrthod".[2]

Recordiadau[golygu | golygu cod]

Mae’r gân wedi cael ei recordio gan 9Bach, Calan, Cerys Matthews, David Lloyd, Gwen Price, Mari Gtiffith, Max Boyce, Meinir Lloyd, Olion Byw, Siân James, Sara Meredydd a Siwsann George, ymysg eraill.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]