Yr Aelwyd (cylchgrawn)

Oddi ar Wicipedia
Yr Aelwyd
Enghraifft o'r canlynolcylchgrawn Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1860 Edit this on Wikidata

Roedd Yr Aelwyd yn gylchgrawn misol anenwadol, Cymraeg ei iaith, a oedd yn trafod pynciau megis crefydd, llenyddiaeth ac addysg. Golygwyd y cylchgrawn gan John Davies, ('Gwyneddon') (1832-1904).[1] Ganwyd Davies ym Mangor yn 1832. Prentisiwyd ef yn argraffydd; bu ar staff olygyddol y North Wales Chronicle ac yn golygu Cronicl Cymru, 1866 a bu'n ysgrifennu erthyglau arweiniol i'r Genedl Gymreig.[2]

Fe'i cyhoeddwyd yng Nghaernarfon gan J. W. Rees a'i gwmni.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Yr Aelwyd (Caernarfon)". Cylchgronau Cymru Ar-lein. Cyrchwyd 7 Tachwedd 2023.
  2. "Davies, John ('Gwyneddon'; 1832-1904), argraffydd a newyddiadurwr". Y Bywgraffiadur Arlein. Cyrchwyd 7 Tachwedd 2023.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]