Ynys y Pinwydd (Caledonia Newydd)

Oddi ar Wicipedia
Ynys y Pinwydd
Mathynys Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,969 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iMatsushima Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolCaledonia Newydd Edit this on Wikidata
SirCaledonia Newydd, Talaith y De (Caledonia Newydd), Djubéa-Kaponé Edit this on Wikidata
GwladBaner Caledonia Newydd Caledonia Newydd
Arwynebedd130 km² Edit this on Wikidata
GerllawY Cefnfor Tawel Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau22.6167°S 167.4667°E Edit this on Wikidata
Hyd17.7 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Mae Ynys y Pinwydd (Ffrangeg: Île des Pins; enw yn iaith Kanak Kwênyii: Kunyié) yn ynys yn y Cefnfor Tawel, ac yn rhan o ynysfor Caledonia Newydd, casgliad tramor o Ffrainc. Mae'r ynys yn rhan o gymuned (bwrdeistref) L'Île-des-Pins, yn Nhalaith De Caledonia Newydd. Llysenw Ynys y Pinwydd yw l'île la plus proche du paradis ("yr ynys agosaf at Baradwys").

Map 1890

Mae'r ynys yn 15 kilometre (9.3 mi) o hyd a 13 kilometre (8.1 mi) o led. Mae'n gorwedd i'r de-ddwyrain o Grande Terre, prif ynys Caledonia Newydd, ac mae'n 100 kilometre (62 mi) i'r de-ddwyrain o'r brifddinas Nouméa. Mae un maes awyr (cod ILP) gyda rhedfa o 1,097 metre (3,599 ft). Mae Ynys y Pinwydd wedi'i hamgylchynu gan Barriff Caledonia Newydd.

Mae trigolion yr ynys yn bennaf yn Kanakiaid Melanesaidd brodorol, ac mae'r boblogaeth yn 2,000 (amcangyfrif 2006) (poblogaeth 1989 1,465).

Mae'r ynys yn gyfoethog o fywyd anifeiliaid ac mae'n gartref i greaduriaid anarferol fel y geco cribog Correlophus ciliatus a'r geco Rhacodactylus leachianus mwyaf y byd.

Y pic Nga yw pwynt uchaf yr ynys, sef 262 metre (860 ft) o uchder. Afon Ouro yw'r afon hiraf.

Hanes[golygu | golygu cod]

Bu pobl Melanesaidd yn byw ar yr ynys am dros 2000 o flynyddoedd cyn i Ewropeaid ymweld â'r ynys gyntaf. Gwelodd Capten James Cook yn 1774 yr ynys a'i ailenwi ar ei ail fordaith i Seland Newydd. Rhoddodd Cook ei enw i'r ynys ar ôl gweld y pinwydd brodorol tal (Araucaria columnaris). Ni laniodd ar yr ynys erioed, ond wrth iddo weld arwyddion o breswylio (mwg) tybiodd fod pobl yn byw yno. Yn y 1840au cyrhaeddodd cenhadon Protestannaidd a Chatholig, ynghyd â masnachwyr yn chwilio am sandalwydd.

Cymerodd y Ffrancwyr feddiant o'r ynys y 1853 ac ar yr adeg honno dewisodd y Kunies brodorol y grefydd Gatholig. Yn 1872 daeth yr ynys yn wladfa gosbi Ffrengig, yn gartref i 3,000 o alltudion gwleidyddol o Comiwn Paris.

Golygfeydd[golygu | golygu cod]

Gellir gweld adfeilion trefedigaeth gosbol ym mhentref Ouro yng ngorllewin yr ynys. Mae twr dŵr Ouro a adeiladwyd gan garcharorion yn 1874/75 ac a adnewyddwyd yn 2005 yn dal i gael ei ddefnyddio.

Ym mynwent Cimetière des Déportés ger Ouro mae cofeb siâp pyramid a beddau 300 o alltudion a fu farw rhwng 1872 a 1880.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]