Ynys King William
Gwedd
| Math | ynys |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | William IV, brenin y Deyrnas Unedig |
| Prifddinas | Gjoa Haven |
| Poblogaeth | 1,064 |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Canadian Arctic Archipelago |
| Lleoliad | Cefnfor yr Arctig |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 13,111 km² |
| Uwch y môr | 137 metr |
| Gerllaw | Cefnfor yr Arctig |
| Cyfesurynnau | 69.16667°N 97.41667°W |
| Hyd | 175 cilometr |
![]() | |

Ynys yng ngogledd Canada yw Ynys King William. Mae ganddi arwynebedd o 13,111 km²; mewn cymhariaeth mae arwynebedd Ynys Môn yn 714 km². Saif heb fod ymhell o dir mawr Canada, i'r gorllewin o Benrhyn Boothia ac i'r dwyrain o Ynys Victoria. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 1,064; y pentref mwyaf yw Gjoa Haven.
Yn weinyddol, mae'r ynys yn rhan o diriogaeth Nunavut. Mae'r ynys yn adnabyddus am ei phoblogaeth fawr o'r caribŵ, sy'n byw yma yn yr haf cyn mudo tua'r de ar draws y rhew yn yr hydref.
