Ynys Fochras
Math | gorynys, pentir |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Llanbedr |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.8167°N 4.15°W |
Cod OS | SH552265 |
Saif Ynys Fochras ( ynganiad ) (Saesneg: Shell Island) i'r gorllewin o Lanbedr, Gwynedd rhwng mynyddoedd y Rhiniogydd a môr Iwerddon - ar bentir. Fe'i ffurfiwyd wedi i Iarll Finch (sef George Finch, 9fed iarll Winchilsea) ddargyfeirio'r afon Artro yn 1819. Cyn hynny roedd aber yr afon ger lleoliad presennol Mochras, a'r fynediad i'r 'ynys' drwy bentref bychan Llandanwg, sydd bellach yr ochr arall i'r aber. Yn ôl traddodiad lleol, dyma'r fynediad i Gantre'r Gwaelod.
Mae'r fynedfa gyhoeddus i gerbydau dros sarn (causeway) ar draws yr aber, pan fo'r llanw ar drai. Gall berson ar droed groesi unrhyw amser - o draeth Mochras neu Forfa Dyffryn. Ceir maes awyr gerllaw yn ogystal â maes pebyll.[1] Saif Mochras oddi fewn i Barc Cenedlaethol Eryri, ac o'r herwydd mae'n rhaid i'r maes pebyll gau yn Hydref hyd at Fawrth. Yn ystod y cyfnod hwn gall ffermwyr bori eu defaid yma ar yr ynys.