Neidio i'r cynnwys

Mochras

Oddi ar Wicipedia
Mochras
Mathgorynys, pentir Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlanbedr Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.8167°N 4.15°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH552265 Edit this on Wikidata
Map

Saif Mochras (neu Ynys Fochras) i'r gorllewin o Lanbedr, Gwynedd rhwng mynyddoedd y Rhinogydd a môr Iwerddon - ar bentir. Fe'i ffurfiwyd wedi i Iarll Finch (sef George Finch, 9fed iarll Winchilsea) ddargyfeirio'r afon Artro yn 1819. Cyn hynny roedd aber yr afon ger lleoliad presennol Mochras, a'r fynediad i'r 'ynys' drwy bentref bychan Llandanwg, sydd bellach yr ochr arall i'r aber. Yn ôl traddodiad lleol, dyma'r fynediad i Gantre'r Gwaelod. Mae gwersyll gerllaw o'r enw Shell Island.

Mae'r fynedfa gyhoeddus i gerbydau dros sarn (causeway) ar draws yr aber, pan fo'r llanw ar drai. Gall berson ar droed groesi unrhyw amser - o draeth Mochras neu Forfa Dyffryn. Ceir maes awyr gerllaw yn ogystal â maes pebyll.[1] Saif Mochras oddi fewn i Barc Cenedlaethol Eryri, ac o'r herwydd mae'n rhaid i'r maes pebyll gau yn Hydref hyd at Fawrth. Yn ystod y cyfnod hwn gall ffermwyr bori eu defaid yma ar yr ynys.

Enw[golygu | golygu cod]

Mochras yn y cyfnos.

Beirniadwyd Croeso Cymru (Visit Wales) am ddefnyddio enw'r gwersyll ar eu gwefan. Ymatebodd y corff gan ddweud bod enwau Cymraeg yn bwysig ac mae cyfeirio at y fusnes oedd y wefan. Dywedodd y cyflwynydd a'r digrifwr Tudur Owen ei fod wedi bod yn ffilmio yn ddiweddar ym Mochras ar gyfer y gyfres Cynefin ac ei fod wedi bod yn trafod hanes yr enw.[2]


Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. UKCampsite.co.uk - Caravan Parks and Camping Sites Index
  2. "Beirniadu Croeso Cymru am ddefnyddio enw Saesneg ar ynys ger Harlech". Golwg360. 2023-03-23. Cyrchwyd 2024-06-16.