Yn Y Gwaed

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Yn Y Gwaed  
Clawr Yn Y Gwaed.jpg
Awdur Geraint V. Jones
Teitl gwreiddiol Yn Y Gwaed
Artist y clawr Tina Negus
Pwnc (pynciau) Llosgach, euogrwydd a chosb, cyfrinachau, gwallgofrwydd, dirywiad
Cyhoeddwr Gwasg Gomer
Dyddiad cyhoeddi 1990 a 2010
Tudalennau 152 tudalen
ISBN 1848512023 (argraffiad 1990)
978-1848512023 (argraffiad 2010)

Nofel gan yr awdur Geraint V. Jones ac a gyhoeddwyd ym 1990 ydy Yn Y Gwaed. Enillodd y nofel Wobr Goffa Daniel Owen ym 1990 a chafodd ei chyhoeddi gan Lys yr Eisteddfod Genedlaethol. Ail-argraffwyd y llyfr yn 2010. Mae'r nofel bellach yn lyfr gosod ar gwrs Cymraeg TGAU.

Adrodda'r nofel hanes teulu fferm Arllechwedd yng Ngogledd Cymru yn ystod y 1980au, lle triga'r prif gymeriadau sef Mam, a'i phlant "Fo", Robin a Mared.

Plot[golygu | golygu cod y dudalen]

Dechreua'r nofel wrth i Robin gael hunllef yn llawn elfennau tywyll a sinistr. Caiff ei ddeffro gan ei fam a'i chwaer. Er eu bod yn frawd a chwaer, ceir awgrymiadau cyson o'r bennod gyntaf fod atyniad rhywiol rhwng Robin a Mared. Treulia Robin ei ddiwrnodau yn gweithio ar y fferm, er gwaethaf y boen parhaus mae'n teimlo yn ei gylla.

Dysgwn wrth i'r nofel fynd yn ei blaen fod Robin a Mared yn ffrwyth perthynas a gafodd eu Mam gyda Dewyrth Ifan, sef brawd ei thad a pherchennog gwreiddiol Arllechwedd. Symudodd Mam i fyw yn Arllechwedd pan oedd yn un ar bymtheg oed ac o ganlyniad mae'n amddiffynnol iawn o'r atgofion o Dewyrth Ifan. Dysgwn hefyd eu bod wedi cael plentyn arall, Fo, ond fod ganddo ef broblemau â'i iechyd. O ganlyniad, caiff ei gadw yn y llofft stabal ddydd a nos. Ceir cyfeiriadau cyson yn y nofel at fewnlifiad i gefn gwlad Cymru a'r awyrlu'n hedfan yn isel dros ardaloedd amaethyddol.

Themâu[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir nifer o themâu amlwg yn y nofel. Maent yn cynnwys:

Cymeriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Mam
  • Robin
  • Mared
  • Fo
  • Dewyrth Ifan
  • Harri Llwyn-crwn
  • Jeff