Ymerodres Cixi
Gwedd
Ymerodres Cixi | |
---|---|
Ganwyd | 29 Tachwedd 1835 Beijing |
Bu farw | 15 Tachwedd 1908 Imperial City |
Dinasyddiaeth | Brenhinllin Qing |
Galwedigaeth | gwleidydd, brenhines cyflawn, arlunydd, teyrn, ffotograffydd |
Swydd | list of consorts of rulers of China |
Tad | Yehenara Huizheng |
Priod | Xianfeng Emperor |
Plant | Tongzhi Emperor |
Llinach | Aisin Gioro |
Gwobr/au | Urdd Santes Gatrin, Urdd y Goron Werthfawr |
Bu'r Ymerodres Cixi (29 Tachwedd 1835 – 15 Tachwedd 1908) yn rheolwr de facto Tsieina am 47 mlynedd, o 1861 hyd ei marwolaeth.
Roedd Cixi o deulu Manchu cyffredin, efallai yn ferch i swyddog o radd isel. Dewiswyd hi fel gordderch gan yr Ymerawdwr Xianfeng. Bu farw'r ymerawdwr ar 22 Awst 1861. Yn ystod teyrnasiad ei mab, yr Ymerawdwr Tongzhi, a'i nai, yr Ymerawdwr Guangxu, hi oedd yn rheoli mewn gwirionedd. Yn gyffredinol roedd yn dilyn polisïau ceidwadol, a gwrthododd newid y drefn wleidyddol. Ystyria llawer o haneswyr ei bod yn rheoli fel unben, ac i hyn arwain at ddiwedd Brenhinllin Qing, a diwedd Tsieina Ymerodrol.