Y Wlad Ddu

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Mae'r Wlad Ddu yn rhanbarth o Orllewin Canolbarth Lloegr, gorllewin Birmingham,[1] ac mae'n aml yn cyfeirio at bob un o'r bwrdeistrefi Metropolitan, sef Dudley, Sandwell, Walsall a Wolverhampton[2] , neu rai o'r bwrdeistrefi hyn. Yn ystod y Chwyldro Diwydiannol, daeth yn un o'r ardaloedd mwyaf diwydiannol ym Mhrydain, gyda phyllau glo, glo golosg, ffowndrïau haearn, ffatrïoedd gwydr, gweithfeydd brics a melinau dur, gan gynhyrchu lefel uchel o lygredd.

Disgrifiwyd yr heol 14 milltir rhwng Wolverhampton a Birmingham fel "un dref ddi-dor" ym 1785.[3] Mae'r cofnod cyntaf o "Y Wlad Ddu" yn dyddio i'r 1840au.[4] Mae'n debyg fod yr enw yn deillio o'r huddygl a ddeuai o ddiwydiannau trwm yr ardal, er bod y sêm lo 30 troedfedd o drwch (10 metr) sy'n agos i'r wyneb yn darddiad posibl arall.

Er bod y diwydiant llygredd trwm a roddodd i'r ardal ei henw wedi hen ddiflannu, mae'r enw wedi ennill ei blwyf drwy'r ymdeimlad o rannu hanes a thraddodiad. At hynny, mae adfywiad yr ardal gan lywodraeth leol a'r llywodraeth genedlaethol wedi rhoi cydnabyddiaeth swyddogol i'r rhanbarth ac, i ryw raddau, wedi diffinio ffiniau'r rhanbarth.  

Notes[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "What or where is the Black Country?". Blackcountrysociety.co.uk. Cyrchwyd 13 January 2012.
  2. "What and where is the Black Country?". BBC. Cyrchwyd 28 May 2014.
  3. Jones, Peter M. (2009). Industrial Enlightenment: Science, technology and culture in Birmingham and the West Midlands, 1760–1820. Manchester: Manchester University Press. p. 27. ISBN 0-7190-7770-2.
  4. Jones, Peter M. (2009). "Birmingham and the West Midlands". Industrial Enlightenment: Science, technology and culture in Birmingham and the West Midlands, 1760–1820. Manchester: Manchester University Press. p. 22. ISBN 0-7190-7770-2. The notion of the Black Country, that is to say, a rectangle of territory bounded by Wolverhampton and Walsall to the north and Smethwick, Halesowen and Stourbridge to the south, is also an anachronism, since the expression cannot be traced back beyond the 1840s