Y Waun Ddyfal

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Y Waun, Caerdydd)

Ardal i'r gogledd o ganol dinas Caerdydd yw'r Waun Ddyfal. Yr enw Saesneg ar yr ardal gynt oedd Little Heath (o'i gymharu â'r Great Heath, sef Y Mynydd Bychan).

Mae'r Waun Ddyfal yn cyfateb yn fras iawn i ardal Cathays, ond o safbwynt hanesyddol nid yw ffiniau'r ddwy ardal yn cyd-daro'n hollol. Ymddengys mai rhwng Woodville Road ac Albany Road y lleolid y Waun Ddyfal yn fras.[1]

Mae'r enw wedi dod yn gyfarwydd yn ddiweddar diolch i Gôr Aelwyd y Waun Ddyfal sy'n cystadlu yn flynyddol yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol Cymru.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Ceinwen Thomas, 'Diofalwch Dynion Dwad', Y Dinesydd, 15 (1974), t. 12.
  2. http://www.s4c.co.uk/corcymru/c_youth-choirs.shtml[dolen marw] Hanes y cór ar wefan Cór Cymru 2013