Y Tair Chwaer, De Cymru Newydd

Oddi ar Wicipedia
Y Tair Chwaer

Mae'r Tair Chwaer yn dair craig sy'n sefyll ar ben clogwyni uwchben Dyffryn Grose yn y Mynyddoedd Gleision, Safle Treftadaeth y Byd yn Ne Cymru Newydd, Awstralia, yn ymyl Katoomba. Maent yn 922, 918 a 906 medr uwch lefel y môr.[1]

Yn ôl chwedl frodorol, roeddent yn dair chwaer, aelodau llwyth Katoomba, a'u henwau'n Meehni, Wimlah a Gunnedoo. Roeddent yn caru tri brawd o'r llwyth Nepean, ond yn ôl cyfraith frodorol, ni chaniatawyd priodi. Ceisiodd y brodyr herwgipio'r chwiorydd, gan ddechrau brwydr frodorol. Trowyd y chwiorydd yn gerrig gan ddewin er mwyn eu gwarchod, ond lladdwyd y dewin yn y frwydr, a doedd dim modd i'w newid yn ôl.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]