Y Grawys

Oddi ar Wicipedia

Defod yn y calendr litwrgaidd Cristnogol yw'r Grawys (hefyd Garawys) . Mae'n dechrau ar Ddydd Mercher y Lludw ac yn dod i ben tua chwe wythnos yn ddiweddarach, cyn Sul y Pasg. Pwrpas y Grawys yw paratoi'r crediniwr ar gyfer y Pasg trwy weddi, penyd , darostwng y cnawd, edifeirwch pechodau, ymbil, a gwadu'r hunan . Gwelir y digwyddiad hwn yn yr Eglwysi Anglicanaidd, Uniongred Dwyreiniol, Lutheraidd, Methodistaidd, Morafaidd, Diwygiedig, Eglwysi'r Tri Cyngor a'r Eglwys Babyddol.[1][2][3] Mae rhai eglwysi Ailfedyddiedig ac Efengylaidd hefyd yn cadw'r Grawys.[4][5]

Mae'n ymddangos mai 'Caraŵys' oedd ffurf wreiddiol y gair 'Grawys', a'i fod wedi tarddu o'r Lladin Quadragesima sy'n golygu 'deugeinfed'. Daw'r enghraifft gynharaf ohono yn y Gymraeg o'r 12g ac mae ffurfiau tebyg iddo i'w cael mewn ieithoedd Celtaidd eraill: 'koraiz' yn Llydaweg a 'corgus' mewn Hen Wyddeleg.[6]

Yr Wythnos Sanctaidd, gan ddechrau gyda Sul y Blodau, yw wythnos olaf y Grawys. Yn dilyn hanes y Testament Newydd, mae croeshoeliad Iesu yn cael ei goffáu ar ddydd Gwener y Groglith, ac ar ddechrau'r wythnos nesaf mae llawenydd Sul y Pasg yn cofio Atgyfodiad Iesu Grist.

Dros gyfnod y Grawys, byd llawer o Gristnogion yn ymrwymo i ymprydio, yn ogystal ag ildio rhai danteithion a moethusbethau er mwyn adlewyrchu yr aberth a wnaeth Iesu Grist pan aeth i'r anialwch am 40 diwrnod;[7] [8] [9] caiff hyn ei adnabod fel aberth y Grawys.[10] Mae llawer o Gristnogion hefyd yn cyflwyno elfennau o ddisgyblaeth ysbrydol dros gyfnod y Grawys, fel darllen defosiynol dyddiol neu weddïo trwy galendr y Grawys, i ymagosáu at Dduw. [11] [12] Mae Gorsafoedd y Groes, sef coffâd defosiynol o Grist yn cario'r Groes ac o'i ddienyddiad, hefyd yn aml yn rhan o'r Grawys. Mae llawer o eglwysi Pabyddol a rhai eglwysi Protestannaidd yn tynnu blodau o'u hallorau, a chroesau, cerfluniau crefyddol, a symbolau crefyddol cywrain eraill yn cael eu cuddio dan ddeunydd fioled. Ledled y Byd Cristnogol - yn arbennig ymhlith Lutheriaid, Catholigion Rhufeinig ac Anglicaniaid - bydd nifer yn nodi'r tymor trwy ymataliad rhag bwyta cig, . [13] [14]

Yn draddodiadol, mae'r Grawys yn parhau am gyfnod o 40 diwrnod, i goffáu'r 40 diwrnod y treuliodd Iesu ymprydio yn yr anialwch a chael ei demtio gan Satan, yn ôl Efengylau Mathew, Marc a Luc. [15] [16] Gan ddibynnu ar yr enwad Cristnogol ac arferion lleol, daw'r Grawys i ben naill ai ar nos Iau Cablyd,[17] neu ar fachlud dydd Sadwrn y Pasg, gyda dathlu Gwylnos y Pasg.[18] Naill ffordd neu'r llall, mae arferion y Grawys yn cael eu cynnal hyd at nos Sadwrn y Pasg.[19]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Comparative Religion For Dummies. For Dummies. 31 Ionawr 2011. ISBN 9781118052273. Cyrchwyd 8 Mawrth 2011. This is the day Lent begins. Christians go to church to pray and have a cross drawn in ashes on their foreheads. The ashes drawn on ancient tradition represent repentance before God. The holiday is part of Roman Catholic, Lutheran, Methodist, and Episcopalian liturgies, among others.
  2. Gassmann, Günther (4 Ionawr 2001). Historical Dictionary of Lutheranism. Scarecrow Press, Inc. t. 180. ISBN 081086620X.
  3. Benedict, Philip (3 Mawrth 2014). Christ's Churches Purely Reformed: A Social History of Calvinism. Yale University Press. t. 506. ISBN 030010507X.
  4. Mennonite Stew – A Glossary: Lent. Third Way Café. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-12-19. Cyrchwyd 24 Chwefror 2012. Traditionally, Lent was not observed by the Mennonite church, and only recently have more modern Mennonite churches started to focus on the six-week season preceding Easter.
  5. Brumley, Jeff. "Lent not just for Catholics, but also for some Baptists and other evangelicals". The Florida Times Union. Cyrchwyd 3 Mawrth 2014.
  6. "'Grawys, Garawys' yn Ngheiriadur Prifysgol Cymru". 31 Mawrth 2019.
  7. Burnett, Margaret (5 March 2017). "Students observe Lent on campus – The Brown and White" (yn English). The Brown and White. Cyrchwyd 14 Mawrth 2017.CS1 maint: unrecognized language (link)
  8. Chisholm, Hugh (1911). The Encyclopaedia Britannica: A Dictionary of Arts, Sciences, Literature and General Information (yn English). Encyclopaedia Britannica. t. 428. Cyrchwyd 13 Mawrth 2018. The Lenten fast was retained at the Reformation in some of the reformed Churches, and is still observed in the Anglican and Lutheran communions.CS1 maint: unrecognized language (link)
  9. Gassmann, Günther; Oldenburg, Mark W. (10 Hydref 2011). Historical Dictionary of Lutheranism (yn English). Scarecrow Press. t. 229. ISBN 9780810874824. In many Lutheran churches, the Sundays during the Lenten season are called by the first word of their respective Latin Introitus (with the exception of Palm/Passion Sunday): Invocavit, Reminiscere, Oculi, Laetare, and Judica. Many Lutheran church orders of the 16th century retained the observation of the Lenten fast, and Lutherans have observed this season with a serene, earnest attitude. Special days of eucharistic communion were set aside on Maundy Thursday and Good Friday.CS1 maint: unrecognized language (link)
  10. Hines-Brigger, Susan. "Lent: More Than Just Giving Up Something" (yn English). Franciscan Media. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-03-31. Cyrchwyd 17 Mawrth 2019.CS1 maint: unrecognized language (link)
  11. Crumm, David. Our Lent, 2nd Edition. ISBN 1934879509.
  12. Ambrose, Gill; Craig-Wild, Peter; Craven, Diane; Moger, Peter (5 Mawrth 2007). Together for a Season (yn English). Church House Publishing. t. 34. ISBN 9780715140635.CS1 maint: unrecognized language (link)
  13. Gavitt, Loren Nichols (1991). Traditional Saint Augustine's Prayer Book: A Book of Devotion for Members of the Anglican Communion. Holy Cross Publications. |access-date= requires |url= (help)
  14. Mae'r arfer hwn yn cael ei arsylwi mewn nifer o wledydd Cristnogol crefyddol, er y gall y math o ymataliad amrywio yn ôl yr hyn sy'n arferol. Mae rhai yn ymatal rhag cig am 40 diwrnod, dim ond ar ddydd Gwener y mae rhai, neu rai ar Ddydd Gwener y Groglith ei hun yn unig. Trwy archddyfarniad esgobol o dan y Pab Alexander VI , gall pensitiaid fwyta wyau a chynhyrchion llaeth yn Sbaen a'i thiriogaethau cytrefol.
  15. "What is Lent and why does it last forty days?". The United Methodist Church. Cyrchwyd 24 Awst 2007.
  16. "The Liturgical Year". The Anglican Catholic Church. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-08-24. Cyrchwyd 24 Awst 2007.
  17. "When does Lent really end? | Catholic Answers". www.catholic.com (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-07-07. Cyrchwyd 6 July 2018.
  18. Langford, Andy (4 Ionawr 1993). Blueprints for worship: a user's guide for United Methodist congregations. Abingdon Press. t. 96.
  19. Akin, James. "All About Lent". EWTN. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-03-29. Cyrchwyd 3 Mawrth 2014.