Neidio i'r cynnwys

Mercher y Lludw

Oddi ar Wicipedia
Lludw ar dalcen Cristion Americanaidd.

Diwrnod cyntaf Tymor y Grawys ydy Dydd Mercher y Lludw, yn ôl y Calendr Cristnogol, ac yn fwy na dim: diwrnod o ympryd. Caiff ei gynnal 46 diwrnod cyn y Pasg, 40 o ddyddiau ympryd, gyda chwe Sul nad ydynt yn cael eu cyfri'n ddyddiau ympryd. Dydd Mawrth Ynyd yw'r diwrnod sy'n ei ragflaenu.

Daw'r enw o'r arferiad o roi lludw ar dalcen person i ddangos ei fod yn edifarhau ac mewn galar. Daw'r traddodiad hwn o'r arferiad o sychu dail y palmwydd, a gysegrwyd ar Sul y Blodau, flwyddyn ynghynt, eu llosgi a defnyddio'u lludw i ffurfio siâp croes gan lefaru'r geiriau "Edifarhewch, a chredwch yn yr Efengyl" neu "Cofiwch mai o lwch y daethoch ac i'r llwch y dychwelwch".[1]

Yn ôl yr Efengyl yn ôl Mathew, Yr Efengyl yn ôl Marc a'r Efengyl yn ôl Mathew, treuliodd Crist 40 diwrnod yn ymprydio yn yr anialwch, fel paratoad ar gyfer ei Groeshoelio; yno cafodd ei demtio gan y Satan.[2]

Digwyddodd Mercher y Lludw ar dyddiau hyn yn y blynyddoedd diwethaf a bydd yn digwydd yn y blynyddoedd nesaf:

  • 2016 – 10 Chwefror
  • 2017 – 1 Mawrth
  • 2018 – 14 Chwefror
  • 2019 – 6 Mawrth
  • 2020 – 26 Chwefror
  • 2021 – 17 Chwefror
  • 2022 – 2 Mawrth
  • 2023 – 22 Chwefror
  • 2024 – 14 Chwefror
  • 2025 – 5 Mawrth
  • 2026 – 18 Chwefror
  • 2027 – 10 Chwefror
  • 2028 – 1 Mawrth

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Roman Missal: Ash Wednesday
  2. "What is Lent and why does it last forty days?". The United Methodist Church. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Hydref 2007. Cyrchwyd 24 August 2007.