Y Geiriadur Mawr

Oddi ar Wicipedia
Clawr cyfoes Y Geiriadur Mawr

Geiriadur Cymraeg ydy Y Geiriadur Mawr (teitl llawn: Y Geiriadur Mawr CymraegSaesneg: The Complete Welsh-English English–Welsh Dictionary). Casglwyd deunydd y geiriadur gan H. Meurig Evans a W. O. Thomas, gyda'r Athro Stephen J. Williams yn olygydd ymgynghorol. Mae'n eiriadur Cymraeg–Saesneg a Saesneg–Cymraeg sydd wedi cael ei ad-argraffu sawl gwaith ers ei gyhoeddi am y tro cyntaf yn 1958.

Hanes y geiriadur[golygu | golygu cod]

Cyhoeddwyd argraffiad cyntaf Y Geiriadur Mawr ym mis Rhagfyr 1958, gydag ail-argraffiad ym mis Rhagfyr 1960. Cafwyd ad-argraffiadau pellach ym mis Rhagfyr 1963 a Rhagfyr 1968, ac ym Mehefin 1971 cyhoeddwyd argraffiad diwygiedig. Cyhoeddir ar y cyd gan Cyhoeddiadau'r Dryw a Gwasg Aberystwyth.

Cyhoeddir y geiriadur erbyn heddiw gan Wasg Dinefwr.

Cynnwys[golygu | golygu cod]

Rhennir y geiriadur yn ddwy brif ran: Cymraeg–Saesneg a Saesneg–Cymraeg. Yn y rhan gyntaf ceir geiriau Cymraeg gyda'u cyfystyron yn Gymraeg a Saesneg a gwybodaeth ramadegol gryno. Yn yr ail ran ceir geiriau Saesneg gyda'u cyfystyron yn Gymraeg. Yn ogystal, ceir rhestrau yn y ddwy iaith o enwau personol ac enwau lleoedd, ac enwau anifeiliaid, pysgod, adar, ffrwythau a blodau. Mae'r rhan Gymraeg yn cynnwys detholiad o eiriau hynafol (a nodir gyda seren) ond geiriadur cyfoes ydyw yn bennaf ac fe'i cyflwynir 'I werin Cymru'. Gyda thwf y maes cyfieithu, amlygwyd un o wendidau'r geiriadur, sef y ffaith ei fod yn cynnwys nifer o eiriau hynafol nad ydynt yn cael eu defnyddio bellach. Ar yr ochr Gymraeg mae'r geiriau hyn wedi'u dynodi gyda seren, ond nid felly ar yr ochr Saesneg. Gall defnyddio'r geiriadur hwn i gyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg felly arwain at atgyfodi geiriau nad ydynt wedi'u defnyddio ers canrifoedd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]